1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?
Roeddwn eisiau cyflwyno ac ail-ddehongli hanes a llên gwerin ardal Ysbyty Ifan mewn ffordd drawiadol gyda’r gymuned, gan roi’r Gymraeg yn ganolbwynt i hynny wrth wneud.
2. Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?
Roedd gweithgareddau’r prosiect yn amrywio’n ond rhai o’r uchafbwyntiau oedd – adeiladu sied ar hen safle tafarn porthmyn ‘Tŷ Newydd Y Mynydd’ ar y Migneint gydag artist Kristin Luke. Gwahoddwyd y gymuned am ddiod i drafod hanes y tir a gadael eu marc ar waliau allanol yr adeilad. Arweiniodd hyn wedyn at weithdai lle recordiwyd rhai o drigolion yn adrodd tair stori tylwyth teg. Dro arall, ailgydiodd y gymuned mewn hen draddodiad o godi cerrig gorchest – a daeth trafodaethau o hyn am ystyr a pherthynas pobl â cherrig ac iaith.
Ar hirddydd Haf aeth criw ohonom ar daith gerdded heibio tri hen dyddyn yn nyfnder y Migneint. Buom yn adrodd straeon Tylwyth Teg o’r ardal; creu celf yn yr hen anheddau; a chanu a recordio i alw ar y Tylwyth ar hen biano sydd wedi ymddangos yn un o’r tai. Roedd o’n brofiad anhygoel cael y gymuned at ei gilydd yn canu a chreu yn y lle arbennig yma efo’r cerddor George Amor a’r artist Ffion Pritchard.
Crëwyd taith gerdded natur yn defnyddio recordiadau’r diweddar Gruff Ellis, brodor o Ysbyty, o gylchgrawn sain i’r deillion; Y Gadwyn. Roedd clywed gwybodaeth eang ac ieithwedd gyforiog Gymreig Gruff yn ei gynefin eto yn brofiad anhygoel.
3. Sut wnaeth dy brosiect helpu’r gymuned?
Daeth pobl ar draws y gymuned at ei gilydd mewn lle nad oes man cyfarfod (e.e. tafarn neu siop) yn y pentre’. Mi weithiodd y syniadau ar nifer o lefelau gan fod cymysgedd o siaradwyr rhugl, siaradwyr newydd, y di-gymraeg, a’r rheini oedd yn awyddus i ail-ddarganfod yr iaith. Bu’n ddiddorol gweld pa bynciau, geiriau a gweithgareddau oedd o ddiddordeb i’r carfanau gwahanol yma o bobl a’r buddiannau oedden nhw yn ei gael yn o hynny.
Mae gweithgareddau’r prosiect wedi rhoi hyder i bobl ymarfer eu Cymraeg a’u creadigrwydd, yn ogystal â magu hyder a rhoi’r cyfle i ambell un bod yn rhan o’r gymuned ehangach.
Mae wedi bod yn gyfle gwych i weithio gyda fy nghymuned leol gan gryfhau fy nghysylltiad i, a’u cysylltiad nhw, a’r hanes a’r chwedlau sydd dan ein traed. Oherwydd y cynllun, cefais gyfle i greu cysylltiadau o fudd â sefydliadau ac unigolion creadigol, yn lleol ac yn genedlaethol. Bydd Tŷ Newydd y Mynydd yn cael bywyd newydd ar ôl cyfnod y prosiect fel cwt cymdeithasol i ffeirio llyfrau ac offer.