Cartref digidol diwylliant Cymru.

Young Playwrights 2020 / Dramodwyr Ifanc 2020

Llenyddiaeth

Yn haf 2020, cynhaliodd Theatr Iolo gystadleuaeth i blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 16 oed ysgrifennu drama ddeng munud wreiddiol. Lansiwyd y gystadleuaeth ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn dysgu gartref oherwydd COVID-19 ac yn darparu gweithgaredd creadigol i blant a phobl ifanc tra bod theatrau ar gau.

Cawsom gynigion gan lawer o bobl ifanc a mwynhau darllen pob un ohonynt! Roedd yn benderfyniad anodd, ond rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai’r dramâu buddugol yw The Wakey-Wake-Amatic gan Esme (10 oed), Home from War gan Lauren (14 oed), Two Worlds, One Meal gan Faaris (13 oed) ) a Cer i Ffwrdd gan Rhiana (15 oed).

Yn wreiddiol, gosodwyd y dramâu i gael eu perfformio yn Theatr y Sherman ond, wrth i theatrau ledled y wlad aros ar gau, mae’r pedair sgript fuddugol wedi’u recordio fel dramâu sain y gellir gwrando arnynt gartref neu mewn ysgolion ar sianel podlediad Theatr Iolo.

RHANNWCH