Yn dilyn rhyddhau senglau cyntaf Cyn Cwsg a BERIAN yn gynharach yn y flwyddyn, mae UNTRO yn falch o gyhoeddi mai’r trydydd artist fydd yn rhyddhau ar y label yw’r artist amlddisgyblaethol o Gaerdydd, Ffion Campbell-Davies. Wedi troi yn y cylchoedd celfyddydol ers sawl blwyddyn – yn y meysydd dawns a ffilm yn bennaf – mae Ffion bellach yn troi eu llaw at gerddoriaeth wrth ryddhau ‘Yn Yr Afon / Khalon’, ddydd Gwener 26ain o Orffennaf.
Wedi’u recordio yn wreiddiol ar gyfer sesiwn Georgia Ruth ar BBC Radio Cymru fis Ebrill, mae’r ddau drac yn plethu gweadau lleisiol amrywiol gydag elfennau o gerddoriaeth electroneg a gwerin. Gan ymdrin â themâu sy’n cynnwys natur, newid a chariad, eglura Ffion: “Ar ôl cael y cyfle i gynhyrchu dau drac ar gyfer rhaglen Georgia Ruth, roeddwn i’n awyddus i wneud rhywbeth a allai gario naill ai’r tywyllwch a’r goleuni. Dwi’n teimlo fel bod ymdeimlad o gynhesrwydd a dyfnder yn perthyn i’r ddwy gân.”
“Mae ‘Khalon’ yn gân am berthynas sy’n newid dros amser tra bod ‘Yn Yr Afon’ am burdeb a’r byd natur. Er yn ymddangos fel cân syml, mae mwy iddi dan y wyneb. Mae’r gân hefyd yn atgof o aileni, ildio a rhyddid”. Wedi gweithio ar sawl prosiect gweledol dros y blynyddoedd diwethaf, bu i Ffion gyfarwyddo’r fideo sy’n cyd-fynd â’r trac, fydd yn cael ei ddangos yn Chapter yr wythnos hon cyn pob dangosiad o’r ffilm, ‘Crossing’.
Bydd ‘Yn Yr Afon / Khalon’ allan ddydd Gwener 26ain o Orffennaf ar UNTRO