Cartref digidol diwylliant Cymru.

Yn y dechreuad

Llenyddiaeth

Gan/By : Rob Jones
Darlun/ Illustraion: Nat Thomas

Mae bwyd a diod wastad yn dod ac atgofion yn nol – rhai’n felys, rhai llai hyfryd.
Mae’r sip cyntaf yr haf o rosé yn mynd a fi’n ôl i brynhawn hir ar wyliau hefo’r teulu, yn eistedd ar ôl cinio mawr o dan lygaid yr haul poeth. Agor bag o watercress (berwr y dŵr?!) yn mynd a fi syth yn nol i fi a’r chwiorydd yn eistedd rownd y bwrdd ar bnawn gwlyb gaeafol. Yn mopio fyny cawl watercress hufennog efo bara cynnes, ar ôl gwylio pennod o Bobol Tresgidie.
Ond fel dywedais, dydi o’m o hyd yn felys. Allai dal ddim mynd agos i bort ar ôl noson drwm yn gwylio Bryn Fôn ym Maes B Bala, bownsio fyny a lawr llawn dop o cheeky vimtos.
Beth bynnag, dwi’n gobeithio dyna fydd Blasus – casgliad cynnes o atgofion a straeon pobol Cymru a thu hwnt. Heb y straeon Maes B.
Fyddai’n dechrau adre, gan edrych ar ein perthynas ni efo bwyd. Mynegir ein diwylliant yn aml trwy gân neu lenyddiaeth, ond mae bwyd yn elfen hanfodol o unrhyw ddiwylliant. Felly, croeso mawr i Flasus, cylchgrawn annibynnol a chymdeithas sy’n dathlu’r straeon, pobol a’r greadigrwydd tu nol y sin bwyd yng Nghymru a thu hwnt.

RHANNWCH