Ar y 31 o Ragfyr 2019, cadarnhawyd achos cyntaf Coronavirus yn Wuhan, China … 120960 munud yn ddiweddarach ac mae’r byd yn byw mewn ‘lockdown’.
Lle byddwn ni mewn 120960 munud arall?
Be sy’n mynd i ddigwydd dros y misoedd nesa?
Dim trefn! Sdyc yn tŷ trwy’r dydd, pob dydd.
Mewn 120960 munud arall bydd Cwmni Ifanc Frân Wen yn rhannu cynhyrchiad newydd sbon fydd yn mynd i’r afael ar y byd newydd yma. Ar blatfform i’w gadarnhau, bydd y perfformiad yn cael ei ddarlledu ar-lein.
Dros y 120960 munud yma, bydd y Cwmni Ifanc a thîm o artistiaid proffesiynol yn archwilio’r byd newydd a dathlu dynoliaeth trwy weithdai digidol, rhyngweithiol. Byddwn yn rhannu pytiau ar hyd y ffordd, ond fel arall fe welwn ni chi mewn 120960 munud.
Gwyliwch 120960 ar sianel Fran Wen am 7 o’r gloch nos Wener.