Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y Traeth o Dan y Stryd gan Hywel Griffiths

Llenyddiaeth

‘O dan gerrig y pafin, y traeth’ oedd un o sloganau mwyaf poblogaidd protestiadau 1968 ym Mharis. Galwad obeithiol am ddychmygu bywyd a chymdeithas well, am ganfod cyffro a rhyddid rhag strwythurau caeth y byd.

Ble, a sut y gall bardd ar drothwy deugain oed ganfod y traeth heddiw, yng nghanol prysurdeb cyfrifoldebau bywyd a stormydd gwleidyddol, a phan fo newid hinsawdd yn bygwth traethau a strydoedd yng Nghymru a thu hwnt?

Yn y gyfrol, Y Traeth o Dan y Stryd, mae Hywel Griffiths yn chwilio yn y dirwedd, yr amgylchedd, yn y cof ac yng nghariad teulu a ffrindiau, ac yn dod o hyd iddo, weithiau.

Dyma flas o’r gyfrol.

Nos Lun, 27 Mawrth am 7:30yh yn y Banc Vaults, Aberystwyth, cynhelir noson yng nghwmni dau ffrind. Eurig Salisbury fydd yn holi Hywel Griffiths i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol. Croeso cynnes i bawb.

Mynnwch gopi o’r gyfrol o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH