Wyt ti’n artist ifanc sydd eisiau cymorth i dorri mewn i’r sîn Gymraeg a chael y gig gyntaf yna neu hunan gyhoeddi dy waith? Wyt ti wedi meddwl sut i fynd ati i ddilyn gyrfa fel hyrwyddwr Cerddoriaeth? Ymuna gyda’r Urdd yng Nghaffi Maes B am sesiwn difyr, tips, cyngor a thrafodaeth gan arbenigwyr ac artistiaid ar sut y gall pobl ifanc dorri mewn i’r diwydiant. Panel: Elan Evans, Huw Bebb, Megan Richards ac Eädyth.