Hwn yw’r nawfed casgliad o gerddi gan feirdd newydd yn y gyfres gyffrous, ‘Cyfres Tonfedd Heddiw’. Dyma gasgliad ffres ac egnïol iawn gan fardd sydd wedi ennill ei blwyf fel bardd aeddfed, talentog, ac yn y casgliad arbennig hwn, mae’n mynd ati i gyfuno’r dwys a’r digrif gan ddefnyddio amrywiaeth o fesurau. Mae yma gerddi caeth, cerddi rhydd a cherddi ar fydr ac odl ar bynciau megis gwleidyddiaeth, yr amgylchedd, diddordebau a chynefin y bardd a chanu cymdeithasol cyffredinol a fydd sicr o apelio at bawb.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Osian Wyn Owen ac i weld mwy o’i waith