Y ddrama ddinistriol

Llenyddiaeth

Fe gyhoeddir yn y rhifyn hwn o BARN lythyr agored ynghylch mater Medal Ddrama 2024. Nid wyf yn sicr pam mai llythyr at Lys yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd ydyw (yn hytrach nag at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a wnaeth y penderfyniad i atal y gystadleuaeth) ac nid wyf o’r farn chwaith fod crybwyll diswyddiadau o unrhyw gymorth. Ond mae’n llythyr arwyddocaol a’r hyn sy’n wirioneddol sobreiddiol yn ei gylch yw’r cannoedd o enwau sydd oddi tano.

Dylai Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod graffu’n fanwl ar yr enwau hyn. Mae yma unigolion amlwg o’r holl feysydd celfyddydol sy’n rhan mor annatod o wead y Brifwyl. Ond mwy arwyddocaol fyth yw’r enwau anamlwg, y selogion distadl hynny sy’n mynychu’r Eisteddfod yn flynyddol er mwynhad a phleser.

Bisâr, a dweud y lleiaf, oedd ymdrech ddiweddaraf yr Eisteddfod i roi esboniad am yr hyn a ddigwyddodd ym Mhontypridd. Bu’n rhaid dileu’r gystadleuaeth, meddir, er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith. Ie, bisâr, a bwnglerus hefyd o ran cysylltiadau cyhoeddus – fel petai neb am ofyn wedyn ‘Pa ddeddf? Pa gymal?’ Yn anffodus, heb esboniad credadwy a datrysiad buan, mae pob argoel y gallai mater y Fedal Ddrama wneud niwed parhaol i’r Eisteddfod. Eisoes collasom y cyfle i weld y bytholwyrdd Bryn Fôn yn perfformio yn Wrecsam. Mae perygl enbyd i bob plaid wleidyddol sy’n dieithrio ei chefnogwyr craidd. A dyna’r perygl i’r Eisteddfod ar hyn o bryd yn ôl tystiolaeth y llythyr hwn – dieithrio’r rhai hynny sy’n ei choleddu a’i charu o ganlyniad i’r anallu i roi taw ystyrlon ar y pryderon cwbl ddilys a fynegwyd yn sgil y penderfyniad a wnaed ym Mhontypridd.

Yn sgil diffyg tryloywder yr Eisteddfod, mae’n demtasiwn dyfalu, ac un peth y mae rhywun yn ei synhwyro’n gryf yw bod elfen gref o banig ac ofn wedi bod ddechrau’r haf diwethaf wrth i’r Eisteddfod benderfynu dileu seremoni’r Fedal Ddrama. Ychwaneger at hynny’r ffaith fod baich arswydus y trefniadau ymarferol ar gyfer maes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ar ei drymaf yn y cyfnod hwnnw, ac mae’n hawdd gweld nad oedd y cyd-destun yn un da iawn ar gyfer gwneud penderfyniad pwyllog a hirben ynghylch mater mor bellgyrhaeddol. Un ffactor, efallai, a ddwysaodd y panig a’r ofn oedd yr hyn a ddigwyddodd cyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2023. Bryd hynny, fe wyrdrowyd trafodaeth ynghylch iaith perfformio ar lwyfan y maes yn gyhuddiadau o hiliaeth yn erbyn yr Eisteddfod ac fe fanteisiodd grymoedd yr adwaith gwrth-Gymraeg ar eu cyfle gan ledaenu’r cyhuddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Diau fod hynny’n boenus o fyw yng nghof y rhai a wnaeth y penderfyniad allweddol cyn Eisteddfod Pontypridd a diau eu bod ar y pryd yn credu’n ddidwyll eu bod yn gweithredu er lles enw da’r Eisteddfod – yn ei hamddiffyn rhag cyhuddiadau pellach i’r un cyfeiriad. Ond, saith mis yn ddiweddarach, ai yr un fyddai eu penderfyniad? Onid cam dewr iawn fyddai cydnabod, o edrych yn ôl gyda gwrthrychedd dadansoddol, na wnaethpwyd mo’r penderfyniad cywir? Onid dyna un ffordd o ddwyn yr impasse presennol i ben – a hynny er diogelu lles a dyfodol ein Gŵyl genedlaethol, sef un o swyddogaethau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi’r cwbl?

Peredur Lynch

RHANNWCH