Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y Cychwyn…. | The Beginning…

Y cychwyn …
Ffurfiwyd Cwmni Sain (Recordiau) Cyf yn 1969 gan Dafydd Iwan a Huw Jones, gyda chymorth Brian Morgan Edwards. Roedd y ddau ohonynt eisoes yn gantorion gwerin adnabyddus ac wedi gwneud recordiau i gwmni recordio arall, sef cwmni Teldisc. Roedd Dafydd Iwan wedi recordio saith record fer, a Huw Jones ddwy, ar label Welsh Teldisc.

Yn ystod y cyfnod yma, roedd gwerthiant uchel iawn i recordiau Cymraeg gan artistiaid megis Hogia’r Wyddfa, Hogia Llandegai a Tony ac Aloma (artistiaid oedd yn recordio i gwmnïau Cambrian a Dryw ar y pryd) a recordiau EP yn cynnwys 4 cân oedd y ffurf fwyaf poblogaidd o gyhoeddi. Teimlai Huw a Dafydd nad oedd digon yn cael ei wneud gan y cwmnïau recordio yn y cyfnod hwnnw i wella ansawdd recordiau Cymraeg, o’i gymharu gyda recordiau Saesneg er enghraifft, a sŵn tila iawn yn aml oedd iddynt. Yr arferiad oedd llogi neuadd am ddiwrnod a recordio’r canwr a gitâr fel ag yr oedden nhw, a dyna oedd y record orffenedig.

Roedd Meic Stevens wedi rhoi nifer o syniadau o’i brofiad ef fel canwr yn Lloegr, ynglŷn â’r ffordd y byddai’n recordio mewn stiwdio ‘go iawn’, a sut yr oedd mynd ati i gynhyrchu record yn iawn a gwella sŵn recordiau Cymraeg. Hefyd, roedd Dafydd a Huw yn teimlo y gellid gwneud llawer i wella’r cyhoeddusrwydd oedd yn cael ei roi i recordiau newydd Cymraeg a’r dulliau o werthu o gwmpas y wlad.

Penderfynwyd mai’r unig ffordd o sicrhau rheolaeth dros y pethau yma fyddai ffurfio cwmni newydd annibynnol, a chyda benthyciad o £500 gan Brian Morgan Edwards, aethpwyd ati i gyhoeddi’r record gyntaf, sef Dŵr gan Huw Jones. Llogwyd stiwdio yn Llundain yn ystod mis Mehefin 1969, gyda Meic Stevens yn cynhyrchu, a chyda chymorth Heather Jones a nifer o ffrindiau Meic oedd yn chwarae i grwpiau yn Llundain, recordiwyd ‘Dŵr’ a chreu sŵn cwbl newydd i’r byd adloniant Cymraeg. Roedd y chwyldro wedi dechrau!

RHANNWCH