Mae N’famady Kouyaté yn gerddor ifanc dawnus o Guinea, sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Prif offeryn N’famady yw’r balafon – seiloffon pren traddodiadol, sy’n gysegredig i ddiwylliant Gorllewin Affrica. Mae N’famady yn chwarae fel artist unigol a gyda band llawn o’r enw The Successors of the Mandingue – mae ei drefniannau’n gyfuniad o ddylanwadau jazz, pop a ffync Mandingue Affrica a Gorllewin Ewrop a ddarperir gan gasgliad o gerddorion. Yn 2019/20 cefnogodd Gruff Rhys ar daith ei albwm Pang!.
Mae’r video hwn yn rhan o bresenoldeb Cymru yn WOMEX 2020. Mae 3 artist yn perfformio fel rhan o Horizons yn WOMEX eleni: The Gentle Good, N’famady Kouyaté a Lisa Jên o 9Bach. Mae hefyd sesiwn banel ‘Cerddoriaeth, Ieithoedd Brodorol, Argyfyngau Byd-eang a Fi’.
MWY