Cartref digidol diwylliant Cymru.

Welsh Theatre and the Climate Crisis (Online Stream)

*Bydd grwpiau trafod yn cael eu tawelu ar gyfer preifatrwydd y cyfranogwyr | Discussion groups will be muted for participants’ privacy

Rydym yn eich gwahodd i ymgynnull i drafod sut mae’r diwydiant theatr yng Nghymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r holl waith rydym yn ei wneud nawr yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Ni allwn newid hynny. Ond mi allwn newid sut rydym yn gwneud y gwaith hwnnw a beth yw’r gwaith hwnnw. Mae’r diwydiant yn ecosystem, sydd yn cysylltu mewn sawl pwynt gwahanol. Drwy ddod at ein gilydd a dysgu gan ein gilydd, mi all Cymru osod safon newydd o arfer gorau.

Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Theatr Glan yr Afon, Casnewydd; National Theatre Wales, ABTT Cymru a Creu Cymru. 

Byddwch yn gallu gwylio ffrwd byw o’r digwyddiad yma ar ddydd Mercher, Gorffennaf 12fed o 10.30yb.

RHANNWCH