Er fod gwres Gorffennaf a chyffro’r haf yn teimlo’n bell i ffwrdd, mae paratoadau ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025 ar y gweill ers misoedd. Mae ein paneli o feirniaid talentog wedi eu penodi, ac maent yn darllen yn ddiwyd, yn barod i gyhoeddi eu rhestrau byrion fis Mai. Heddiw rydym yn falch o gyhoeddi pwy yw aelodau’r paneli hyn, ynghyd â lleoliad Seremoni Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025.
Llyfr y Flwyddyn yw ein gwobrau llenyddol cenedlaethol, maent yn dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n rhan annatod o waith Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ein strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.
Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o enillwyr y categorïau hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn.
Y Beirniaid:
Ar y panel Cymraeg eleni mae: y bardd a’r dramodydd arobryn Menna Elfyn; yr awdur ac enillydd gwobr Barn y Bobl 2023 Gwenllian Ellis; y llenor a’r dramodydd Dr Miriam Elin Jones, sy’n ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe; a’r awdur a chyfieithydd Hammad Rind.
Ar y panel Saesneg eleni mae: yr awdur Eloise Williams, y mae ei llyfrau i bobl ifanc wedi ennill sawl gwobr; yr awdur, newyddiadurwr a chyn-ddarlithydd llenyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth Ned Thomas; yr awdur a’r newyddiadurwr arobryn Carole Burns; a’r perfformiwr, hwylusydd ac Uwch Reolwr Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Jason Camilleri.
“Heb os, mae hi’n fraint ac yn anrhydedd derbyn y gwahoddiad i feirniadu gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Mae’r wobr yn gyfle i ni werthfawrogi gwaith holl awduron a gweisg Cymru a chynnig cydnabyddiaeth pwysig i’r rhai sy’n cyrraedd y brig. Gyda chymaint o gyfrolau amrywiol ac arbennig wedi’u cyhoeddi yn 2024, bydd hi’n her a hanner i mi a’m cyd-feirniaid ddewis y goreuon!” – Dr Miriam Elin Jones
Y Seremoni Wobrwyo
Eleni, rydym yn falch i gyhoeddi y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2025 yn cael ei chynnal yn Theatr y Sherman, Caerdydd.
“Mae Theatr y Sherman yn falch iawn o fod yn gartref i’r seremoni wobrwyo eleni. Fel theatr, sydd wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, rydym yn hynod gyffrous i fod yn gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar brosiect Llyfr y Flwyddyn 2025. Gydag adran lenyddol lewyrchus yma yn y Sherman, mae ein theatr yn teimlo fel lleoliad perffaith ar gyfer y seremoni wobrwyo fawreddog hon, gan ddathlu talent lenyddol o bob cwr o Gymru. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yma ar y noson a chefnogi Llenyddiaeth Cymru i wneud hwn yn ddigwyddiad unigryw, cofiadwy a phleserus i bawb.” – Rheolwr Cynhyrchu a Rhaglennu, Theatr y Sherman
Bydd tocynnau cyhoeddus i’r seremoni ar gael i’w prynu ar ein gwefan yn dilyn cyhoeddi’r Rhestr Fer fis Mai, gyda’r holl fanylion ar gael ar dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn.
Ein Partneriaid
Eto eleni, rydym yn hynod o lwcus a balch o gefnogaeth gwerthfawr ein partneriaid amrywiol sy’n ein cynorthwyo i wneud y gwobrau a’r dathlu yn bosib. Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd yw ein Prif Noddwyr ar gyfer 2025. Ein Noddwyr Categori ar gyfer 2025 yw: Cronfa Elw Park Jones (Gwobr Plant a Phobl Ifanc Cymraeg), Hadio ac Ymddiriedolaeth Rhys Davies (Gwobr Ffuglen Saesneg). Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ddistyllfa Penderyn, noddwyr ein Seremoni Wobrwyo.
“Mae Llyfr y Flwyddyn yn ymdrech ar y cyd go iawn, ac ni fyddai’r gwobrau’n llwyddiant heb gyfraniadau anhygoel ein partneriaid. Mae ein partneriaid yn y cyfryngau yn hanfodol i sicrhau bod y gwobrau’n cael sylw gan ddarllenwyr ledled Cymru ac mae ein partneriaid corfforaethol yn cynnig ffyrdd arloesol o gydweithio ac yn darparu cyllid hanfodol i ni gael trefnu dathliad heb ei ail i lyfrau ac awduron gorau Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu drwy gydol y flwyddyn, gan ddechrau gyda chyhoeddiad y rhestr fer ym mis Mai.” – Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru
Rydym yn falch hefyd o gael parhau i gydweithio gyda Golwg360 a Nation.Cymru fydd yn cynnal pleidlais Barn y Bobl a People’s Choice ar eu gwefannau, lle bydd gan y cyhoedd gyfle i bleidleisio dros eu hoff gyfrol ar y Rhestr Fer.
Parhau hefyd mae ein partneriaeth â BBC Cymru Wales. Cadwch eich llygaid a’ch clustau’n agored fis Mai, pan fyddwn yn cyhoeddi ein Rhestr Fer Gymraeg ar BBC Radio Cymru a’n Rhestr Fer Saesneg ar BBC Radio Wales.
Cadwch olwg ar dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i fod gyda’r cyntaf i glywed unrhyw newyddion am wobr Llyfr y Flwyddyn 2025.