Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ù Ơ | Suo: Arddangosfa Farddoniaeth Ar-lein / An Online Poetry Showcase

Llenyddiaeth

Mae Gwasg AJAR a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn falch o gyflwyno Ù Ơ | SUO: A Poetry Showcase, ffrwyth rhaglen breswyl rithwir a gweithdai ar-lein a ddaeth â deg bardd ac artist benywaidd/anneuaidd o Fietnam a Chymru ynghyd dros gyfnod o dri mis. Dechreuwyd y prosiect gan Wasg Ajar a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau ac fe’i cefnogwyd gan y Cyngor Prydeinig.

Mae enw’r prosiect Ù Ơ | SUO yn dwyn i gof seiniau cyfarwydd hwiangerddi a ganwyd gan neiniau a mamau Fietnam a Chymru, ac roedd yn fan cychwyn i fyfyrio ar y cyd ar darddiad iaith farddonol a throsglwyddiad iaith a chof o fewn teuluoedd. Bu’r beirdd, yr artistiaid a’r golygyddion o’r ddwy wlad yn cysylltu drwy amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y rhaglen dri mis, gan gynnwys gweithdai ar-lein wythnosol, sesiynau grŵp llai, a gwaith unigol. Arbrofodd y cyfranogwyr gyda gwahanol fathau o gyfieithu rhwng ieithoedd a ffurfiau celf, gan greu fformatau nad ydynt yn perthyn i genres confensiynol: cerddi mewn ymateb i gerddi, cydblethu testunau tairieithog yn Saesneg, Fietnameg a Chymraeg, peintio neu ddarlunio cerddi, cerddi fideo a mwy.

Bydd y canlyniadau yn cael eu harddangos mewn cyhoeddiad digidol a gweithgareddau amlgyfrwng yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi, ac yn cynnwys sesiynau trafod, darlleniadau a gwaith unigol a chydweithredol newydd a gynhyrchwyd yn ystod y preswyliad. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys sgwrs gyda dau westai, yr awduron adnabyddus Trần Thị NgH. a Menna Elfyn, a edrychodd yn ôl ar eu teithiau creadigol yng nghyd-destun ehangach hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant cenedlaethol, gan gynnig safbwyntiau ar ysgrifennu a byw fel llenorion (benywaidd) ac ar gyfieithu a’i bwysigrwydd i gyrraedd cynulleidfa ehangach.

Dywedodd Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau: “Roedd yr holl gyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i gydweithio yn rhithwir ar adeg pan nad oedd teithio’n bosibl ac i rai, ysbrydolodd y prosiect hyder newydd i weithio’n ddwyieithog. Llwyddodd y beirdd a’r artistiaid Cymreig i gyflwyno Cymru fel gwlad ddwyieithog gyda thraddodiad barddoniaeth gyfoethog a sîn gelfyddyd gyfoes fywiog ar lwyfan rhyngwladol.”

“Roedd yn rhaid i mi edrych ar Gymru trwy lygad rhywun o’r tu allan, i fod yn dywysydd rhithiol ac i egluro’r pethau ry’n ni’n eu cymryd yn ganiataol am ein hanes, a’n hiaith. Fe wnaeth hynny wir wneud i mi weld Cymru mewn ffordd wahanol.” meddai Rae Howells, bardd, newyddiadurwraig a ffermwr lafant o Abertawe. “Mae hefyd wedi gwneud i mi godi fy Nghymraeg. Rwyf wedi bod ar daith nid yn unig â fy ngramadeg, ond hefyd â’m tafodiaith, y dafodiaith rwy’n ei chofio o fy mhlentyndod, gan fy mamgu a thadcu. Rwy’n defnyddio fy Nghymraeg llawer mwy yn fy mywyd bob dydd hefyd.”

“Mewn cyfnod lle nad ydym wedi gallu teithio a methu profi’r byd, mae hi wedi bod yn hyfryd iawn gweld y byd o safbwynt pobl eraill, a rhywle sydd mor wahanol i Gymru” meddai Esyllt Angharad Lewis, artist gweledol a bardd sy’n byw yng Nghaerdydd.

Roedd y bardd a’r cyfieithydd Nguyễn Lâm Thảo Thi yn gwerthfawrogi’r cyfnewid gyda’r awduron Cymreig: “Rwy’n ddiolchgar iawn o fod wedi cael y gofod a’r amser i ddarllen gwaith pobl eraill, i glywed safbwyntiau pobl eraill. Roedd cael cipolwg ar eich byd chi yn brofiad adfywiol a gwerthfawr iawn.”

“Yr effaith a gafodd y prosiect arna i” meddai Thu Uyên o Hanoi, “oedd i mi ailfeddwl fy Fietnameg a fy Saesneg, a hefyd ceisio camu i’r anhysbys—y teimlad hwnnw o nesáu at iaith nad ydych chi’n ei hadnabod. Roedd yn brofiad diddorol iawn.”

Roedd Sara Louise Wheeler, bardd dwyieithog sy’n byw yng Nghilgwri, yn gweld gweithio gyda beirdd eraill yn newid braf: “Fe wnes i fwynhau gweld syniadau mor wahanol ac yna cael f’ysbrydoli gan y syniadau hynny – edrych tuag allan a bron fel disgyn i ryw fath brofiad fel Alice in Wonderland.”

“Mae wedi bod yn brofiad hynod werthfawr i mi fel bardd mwy newydd,” meddai’r actores Rhiannon Oliver o Gaerdydd “Dyma’r tro cyntaf erioed i mi weithio gyda grŵp o feirdd, felly rwy’n teimlo cysylltiad â chymuned nad wyf wedi bod yn rhan ohoni o’r blaen, yng Nghymru ac wrth gwrs yn Fietnam”

“Rwy’n teimlo bod y prosiect cyfan wedi bod yn fy ngwthio i ymhellach , mae wedi bod yn rhywbeth sydd wedi agor drysau newydd yn fy mhroses ysgrifennu yn fwy na dim.” meddai Ness Owen, darlithydd a bardd o Ynys Môn.

Mae Chu Lan Anh yn astudio yn Efrog Newydd ac meddai: “Rwyf hefyd yn hapus gyda fy nghydweithiau gyda llawer iawn o bobl, yn enwedig Ness ac Esyllt, rydym wedi cael llawer o sgyrsiau a rhannu pethau. Rwy’n meddwl mai dim ond y dechrau yw’r prosiect hwn ar gyfer nifer o bethau yn y dyfodol.”

RHANNWCH