Mae Am yn falch o lansio Tudalen, gofod digidol newydd ar ein gwefan i gyhoeddi llenyddiaeth wreiddiol o Gymru. Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Tudalen, drwy alwad agored, yn rhannu 3 darn buddugol o lên-meicro ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Rydym yn gofyn am ddarnau o lên-meicro creadigol yn ymateb i’r thema ‘Portread’, a hynny i ddathlu arddangosfa ddiweddaraf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Portread a Phŵer’ . Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno darn o waith yw 23:59 Chwefror 12fed 2026. Ceir mwy o wybodaeth yn y canllawiau isod.
- Diffinnir llên-meicro fel darn o ryddiaith sydd yn stori gyflawn a adroddir gyda nifer cyfyngedig o eiriau (hyd at 500 gair).
- Rydym yn gofyn am waith yn ymateb i’r thema ‘Portread’, ond nodir mai sbardun ysbrydoliaeth yw’r thema, ac nad oes anghenraid i ymateb i’r arddangosfa ‘Portread a Phŵer’ yn uniongyrchol.
- Mae’n rhaid i’r darn fod yn yr iaith Gymraeg.
- Dylai’r darn fod heb ei gyhoeddi unrhyw le arall o’r blaen.
- Gallwch gyflwyno eich gwaith trwy yrru eich darn ar ffurf dogfen Word i am@pyst.net. Mae hefyd modd i chi yrru eich darn ar ffurf ffeil sain: cysylltwch gyda lea@pyst.net am fwy o wybodaeth am hyn.
- Bydd ysgrifenwyr y 3 darn buddugol yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £100 yr un.
- Bydd y darnau buddugol yn cael eu dethol yn anhysbys gan Banel Beirniadu fydd yn cynnwys Eluned Gramich a Malachy Edwards.
- Byddwn yn hysbysu awduron y darnau buddugol ar Chwefror 24ain, a bydd y darnau hynny yn cael eu cyhoeddi ar Am ar Fawrth 1af.
- Bydd hawlfraint y gwaith yn aros gyda’r awdur, ond bydd gofyn i’r gwaith gael ei rannu yn ecsgliwsif drwy Am am gyfnod o fis.
Am fwy o wybodaeth am Tudalen, cysylltwch â lea@pyst.net.