Fel rhan o gynllun Pontio Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7 Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, mae’r ysgolion o fewn y clwstwr wedi bod yn cydweithio i greu Sioe Gerdd am ein hardal a’n cynefin.
Yn dilyn gweithdai ymhob un ysgol roedden ni’n hynod ffodus i fedru ariannu cyfansoddwyr, cyfarwyddwyr a sgriptwyr proffesiynol i ddod â syniadau’r plant yn fyw ar gyfer y llwyfan. Bu’r bardd a’r dramodydd Gruffydd Owen yn ‘sgwennu’r sgript a’r geiriau ar gyfer y caneuon ac fe gyfansoddwyd y caneuon gan Dyfan Jones ac yna fe ddaeth y plant a’r cyfan yn fyw ar y llwyfan.
Roedd y plant yn llawn cyffro yn dysgu caneuon newydd, perfformio gyda’i gilydd a dod i ’nabod plant fydd yn eu cwmni ym mlwyddyn 7 yng Ngwent Is Coed. Perfformiwyd y sioe ar yr 8fed o Orffennaf yn Theatr Glan yr Afon a dyma i chi recordiad i fwynhau gyda’ch teuluoedd.