Aeth bron i 10 mlynedd heibio ers i Menna Elfyn gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth Gymraeg yn unig. Dyma gyfle felly, i ehangu ar y math o farddoniaeth y mae Menna wedi ei chysylltu â hi yn y gorffennol: yn gerddi rhydd a phenrhydd gydag ambell gerdd gynganeddol. Yn gyfrol hefyd sy’n croesi’r ffiniau rhwng rhyddiaith a barddoniaeth, mae yma ymsonau, ac ambell wedd ddeialogaidd ei naws.
Thema fawr sy’n clymu’r gwaith ynghyd yw menywod. Boed yn ferched sy’n flaenllaw heddiw neu’n ffigyrau hanesyddol, byddant oll yn cael eu clymu ynghyd yn y gyfrol hon, megis Catrin Glyndŵr, y Dywysoges Gwenllïan, Ann Griffiths, Elaine Morgan yn ogystal ag aelodau o’i theulu ei hun, sef cerddi galar am golli chwaer, ac ambell atgof am ei mam a’i mam-gu.
Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cerddi am fyd natur, am effaith y clo yn 2020 mewn cerddi telynegol eu naws yn aml gydag elfen o hiwmor ynghlwm wrthynt. Ceir darluniau trawiadol gan yr artist o Landysul, Meinir Mathias sydd hefyd wedi darlunio’r clawr.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Menna ac i weld mwy o’i gwaith.