Heddiw, mae’r band gwerin The Trials of Cato yn rhyddhau fideo ar gyfer eu sengl diweddaraf, ‘Aberdaron’, a hynny wedi iddynt dderbyn nawdd gan Gronfa Fideos Cerddorol Lŵp x PYST.
The Trials of Cato yw Tomos Williams, Robin Jones a Polly Bolton. Ffurfiwyd y band nol yn 2016 pan oeddent yn byw a gweithio ym Meirut Lebanon.
“Cyfansoddwyd yr alaw tra bod y band dal yn byw ac yn gweithio ym Meirut”, meddai Tomos, “Mae trefniad y gân wedi datblygu cryn dipyn ers y dyddiau cynnar hynny, gyda elfennau newydd wedi cael eu cyflwyno wrth i ni perfformio’r gan yn fyw dros y pum mlynedd diwethaf. Mae ‘Aberdaron’ wastad yn ymddangos fel ffefryn yn ein perfformiadau byw, nid ond yng Nghymru ond hefyd yn Lloegr, yr Alban, Canada ac America. Nawr, chwe mlynedd ar ol i’r gan gael ei chyfansoddi yn wreiddiol, mae hi’n ymddangos ar ei newydd wedd ar ein halbwm newydd ‘Gog Magog’”.
Ffilmiwyd y fideo gan Matt Coles yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ac mae’n cynnwys Robin Jones o’r band ar y prif leisiau. Yn ôl Robin, “Mae cerdd enwog Albert Evans-Jones ynglyn ag Aberdaron wedi bod yn ffefryn ers i mi fod yn blentyn. Mae llif a threigliad y geiriau yn y penillion hyfryd yma wastad wedi fy atgoffio o’r harddwch, heddwch a’r hudoliaeth sydd yn denu miloedd i ymweld âg ardaloedd swynol Pen Llyn pob blwdyddyn. Roedd yn fraint i ni gael ffilmio’r trac yn y lleoliad ysbrydoledig yma”.
Mae’r band yn canu yn Gymraeg yn Saesneg ac yn ôl Polly, sydd ddim yn siaradwr Cymraeg rhugl, “Since I joined the band the boys have been helping me to learn more and more of this beautiful language. It was an honour to sing harmony on this track and although some of the finer poetic nuances were lost on me, I felt that the obvious musicality of the words transcended the language barrier and gave me a real sense of the magic that this poem is meant to convey. I have to say I didn’t really get the concept of ‘hiraeth’ before now, but the experience of recording this track and filming it in Aberdaron gave me a much better understanding of what it means.”
Cafodd y fideo ei ddangos am y tro cyntaf ddoe ar wefan Folk Radio UK ond gallwch ei wylio ar wefan AM nawr.