Cartref digidol diwylliant Cymru.

The City Socials

No Categories Found

Cysylltwch â chyd-artistiaid a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio ym myd y theatr

The Sustainable Studio, 59-61 Tudor Street, Caerdydd CF11 6AD

18:30 – 21:20 ddydd Iau 15 Awst

Archebwch nawr

Wrth i ni ddod â grŵp o artistiaid, gweithwyr llawrydd a gwneuthurwyr theatr ynghyd, rydyn ni’n llawn cyffro i rannu ein gweithgarwch sydd ar ddod ar gyfer The City Socials, a chynnig cyfle i chi gwrdd, cyfarch, siarad, gwrando a rhannu gofod.

Bydd cyfleoedd i berfformio fel rhan o’n meic agored, dweud eich dweud yn rhai o’n gweithdai siarad anffurfiol, a mwynhau set DJ gan Dexter Budd. Bydd bwyd a diodydd di-alcohol yn cael eu darparu i ysgogi sgwrs.

Felly, dewch â rhywun gyda chi ac ymunwch â ni i weld beth sydd gennym yn digwydd, wrth i ni lansio The City Socials.

Amserlen

18:30 – 19:00 – Croeso
19:30 – Gweithdy siarad wedi’i gynnal gan Jannat Ahmed: Dehrau ar eich taith greadigol
19:30 – Gweithdy siarad wedi’i gynnal gan Rachel John: Parhau’n greadigol
20:00 – 21:30 – Meic agored Open mic wedi’i gynnal Abena-Mintaah Mensah

Mae croeso i chi alw heibio neu aros am y noson gyfan.

Darpariaeth mynediad

Mae’r The Susttainable Studio yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

Rydym yn croesawu gweithwyr llawrydd newydd ac artistiaid o bob math ar ddechrau eu gyrfa. Os oes angen cymorth arnoch i fynychu ee dehongli BSL, gofal plant neu gostau teithio, cysylltwch â Justin, ein Cydymaith Creadigol -justincliffe@nationaltheatrewales.org.

RHANNWCH