Cyflwynir artist electronig Cymraeg Thallo sesiwn fyw wedi ei recordio o’i chartref yn Llundain. Clywir gwraidd o arddull jazz, gwerin ac electronig yng ngherddoriaeth Thallo, sef prosiect Elin Edwards. Gyda chaneuon yn y Gymraeg a Saesneg, mae sain cyfoethog yn cael ei blethu’n ofalus rhwng ei llais a chyfeiliant band mewn trefniannau cymleth. Gwnaeth sengl ‘I Dy Boced‘ sefydlu Thallo fel un o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru, ac ers hynny mae Thallo wedi derbyn canmoliaeth gan y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg a thu hwnt.
Mae Thallo yn aml wedi cael sylw Radio Cymru, Radio Wales, Radio 1, ac wedi perfformio mewn gŵyliau a chyngherddau ar hyd Llundain a Chymru gan gynnwys St Pancras Old Church a gŵyl Other Voices.