Eisteddfod yr Urdd yn galw am feirdd ifanc i gymryd rhan yng nghystadleuaeth newydd ‘Talwrn yr Ifanc’
Mae Eisteddfod yr Urdd yn gwahodd timoedd o feirdd ifanc rhwng 14 a 25 oed i gofrestru ar gyfer cystadleuaeth newydd Talwrn yr Ifanc.
Bydd y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth a BBC Radio Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn cael ei chynnal drwy dymor yr Hydref ac yn gyfle i feirdd ifanc ar draws Cymru i greu timoedd i gymryd rhan mewn cyfres o dasgau arbennig wedi’i gosod gan ein meuryn a Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen. Bydd y rowndiau cynderfynol yn cael ei cyhoeddi ar dudalen Facebook Eisteddfod yr Urdd tra bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu ar Radio Cymru cyn y Nadolig.
Mae Talwrn yn Ifanc yn un o brosiectau newydd Eisteddfod yr Urdd ar gyfer aelodau hŷn wrth i’r mudiad addasu yn sgil y pandemig a chreu cyfleoedd digidol newydd i bobl ifanc fod yn greadigol a chymryd rhan yn y Celfyddydau.
Unwaith bydd y timoedd wedi cofrestru, byddwn yn penodi mentor ifanc i bob tîm i’w harwain a chynorthwyo’r beirdd ifanc i ymateb i’r tasgau Talwrn.
Rydym yn chwilio am dimoedd o 3 o feirdd ifanc rhwng 14 a 25 oed – gallwch fod yn ddisgyblion ysgol, yn fyfyrwyr neu’n gyfeillion. I gofrestru, e-bostiwch eisteddfod@urdd.org gan nodi enw eich tîm a’r aelodau bydd yn cymryd rhan cyn y dyddiad cau am 12pm ar Hydref 16.
* Byddwn yn recordio’r rowndiau cyn-derfynol yn ystod yr wythnos Tachwedd y 9fed ymlaen gyda’r rownd derfynol i’w chadarnhau yn ystod mis Rhagfyr.
Eisteddfod yr Urdd is looking for new young poets to take part in a new digital competition ‘Talwrn yr Ifanc’.
Eisteddfod yr Urdd is inviting teams of young poets between the ages of 14 and 25 to register for our new ‘Talwrn yr Ifanc’ competition.
The competition, which is being held in partnership with BBC Radio Cymru and Literature Wales will be held this Autumn and will be an opportunity for budding poets across Wales to create teams to take part in a series of special poetry tasks set by the Welsh language Children and Young People’s Laureate, Gruffudd Owen. The semi-finals will be streamed on the Urdd Eisteddfod’s Facebook page while the final will be broadcast on Radio Cymru before Christmas.
Once the teams have registered, we will appoint a young mentor to each team to guide and assist them as they prepare for the Talwrn tasks.
We are looking for teams of 3 between the ages of 14 and 25 – you can be school pupils, students or friends.
To register, please email eisteddfod@urdd.org details of the name of your team and members who will be participating before the 12pm deadline on October 16.
Talwrn yn Ifanc is one of the Urdd Eisteddfod’s new projects for members as the organisation adapts as a result of the pandemic and creates new digital opportunities for young people to be creative and be able to take part in the Arts
* We will record the pre-final rounds during the week November 9th onwards with the final to be confirmed during December.