Cartref digidol diwylliant Cymru.

Taith: Y Glo o Dan ein Traed, Y Gwynt uwch ein pennau

TOCYNNAU YMA   

 

Mae’r ffilm ddogfen rymus hon yn daith drwy orffennol glofaol y cymoedd ynghyd a’u dyfodol sy’n frith o bosibiliadau.

 

Roedd 2025 yn nodi 40 mlynedd ers diwedd streic y glowyr a 30 mlynedd ers ailagor Glofa’r Tŵr, y pwll glo cyntaf yn y DU i fod o dan berchnogaeth y gweithwyr. Fe wnaeth un nodi diwedd cyfnod, a’r llall tanio gweledigaeth obeithiol.

 

Wedi’i saethu a’i chyfarwyddo gan Jeremy Clancy, a fagwyd ym maes glo swydd Derby gan weld o lygad y ffynnon yr echdynnu a’r niwed i’r gymuned, mae’r ffilm hon yn plethu’r gorffennol a’r dyfodol a chreu stori o’r newydd.

 

Cyf-gynhyrchwyd y ffilm gyda phobl leol o bob cenhedlaeth ac mae’n crisialu egni, rhwystredigaeth a balchder gwaelodol pobl ifanc sy’n benderfynol o grey dyfodol gwahanol. Mae’n trafod y posibilrwydd o chwyldro diwydiannol gwyrdd gallasai dychwelyd swyddi, adnoddau, cyfiawnder ac ynni cynaliadwy i’r llefydd sydd eu hangen mwyaf.

 

Bydd pob dangosiad o’r ffilm yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda chast y ffilm, a thrafodaeth gymunedol am y themâu o’r ffilm ynghyd â’r camau nesaf.

RHANNWCH