Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sywel Nyw – Disgo Newydd

Cerddoriaeth

Fideo wedi ei gynyrchu gan Lleucu Elisa.

Mae Lwcus T yn cyflwyno ‘Disgo Newydd’, sengl ddiweddaraf yr artist a chynhyrchydd Sywel Nyw. Dyma barhau gydag ethos cydweithredol y cerddor, ond tro yma mae’n pefrio synau trawsatlantig.

Mae ‘Disgo Newydd’ yn drac sydd yn adlewyrchu cyfeillgarwch rhyngwladol, wrth i Sywel Nyw samplo sgwrs dros WhatsApp gyda Meirion Griffiths, o Drelew, Patagonia. Mae Meirion yn frodor o’r Ariannin, a’n rhugl yn y Gymraeg a’r Sbaeneg.

Yn llawn curiadau hafaidd, mae’r trac dawns yn pefrio synau i symud eich sodlau a chodi eich calonnau tra’n gwlychu eich tafodau dros Haf 2023! Gwyliwch fideo sy’n cyd-fynd gyda’r sengl, wedi’i greu gan y fideograffydd Lleucu Elisa.

RHANNWCH