Cartref digidol diwylliant Cymru.

Swyddog Beics Antur x 2

Cymuned

Dyddiad cau: 31 Awst 2023 

Rydym yn chwilio am ddau berson sy’n llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno a’n tîm fel Swyddogion Beics Antur. Fel aelodau o dîm Beics Antur a’r Tri Busnes Gwyrdd, mi fydd Swyddogion Beics Antur yn gyfrifol am weithredu ar ein Cynllun Beicio i Bawb ar gyfer amrywiaeth o grwpiau o fewn y gymuned.

Bydd prosiect newydd Beicio i Bawb yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau beicio fforddiadwy i drawsdoriad o’r gymdeithas gan gynnwys disgyblion ysgol, pobl ifanc difreintedig, henoed, unigolion ag anableddau dysgu, a presgripsiwn cymunedol.

Drwy feithrin perthnasoedd cymunedol cadarnhaol, gyda’n gilydd gallent wneud beicio yn hygyrch i bawb.

Ewch i swyddi@anturwaunfawr.cymru neu 01286 650721 os am fwy o wybodaeth.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Antur Waunfawr

Ffurflen gais
Ffurflen-Gais-3.doc

Disgrifiad swydd

Pecyn-Recriwtio-Swyddog-Beics.pdf

Dyddiad cau i ymgeiswyr
31 Awst 2023

RHANNWCH