Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos. Mae hi hefyd yn caru darllen.
Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T. H. Parry Williams yn y car, a sut i fynd i’r arfer o ddarllen.
Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Felinheli
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Sain: Aled Hughes
- Childhood – Maksim Gorky (Ivan R. Dee)
- Salem a Fi – Endaf Emlyn (Y Lolfa)
- Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
- Llyfrau Danielle Steele
- Llyfrau Jackie Collins
- Matilda – Roald Dahl (Gwasg Rily)
- Boy – Roald Dahl (Puffin)
- Ffiwsi Be – Irma Chilton (Gwasg y Dref Wen)
- Cyfres Ifan Bifan – Gunilla Bergstrom, addasiad Juli Phillips (Gwasg y Dref Wen)
- Lloffion – T. H. Parry-Williams
- Llyfrau Sally Rooney
- Llyfrau Matt Haig
- Take a Break
Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma:
https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/
Mae Manon hefyd un o griw podlediad Colli’r Plot.
Gwrandewch yma:
https://www.amam.cymru/collirplot