Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sut i Ddarllen: Malachy Edwards

Llenyddiaeth

Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen. 

Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg. 

Yn y bennod mae’n trafod cylchgronau sgelfyrddio, darllen y clasuron a’i ymchwil diweddar i fywyd John Ystumllyn. 

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes 

Recordio sain: Aled Wyn Hughes 

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog. 

Rhestr Ddarllen 

  • Thrasher Magazine 
  • Kerrang 
  • Rolling Stone  
  • Cyfres Artemis Fowl – Eoin Colfer 
  • 1984 – George Orwell 
  •  The Handmaid’s Tale – Margaret Atwood 
  • Doctor Faustus – Christopher Marlowe 
  • The Autobiography of Benvenuto Cellini – Benvenuto Cellini, cyfieithiad Anne Macdonell 
  • The Interesting Narrative and Other Writings – Olaudah Equiano 
  • Pam Na Fu Cymru – Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg – Simon Brooks 
  • Decolonizing Language and Other Revolutionary Ideas – Ngugi wa Thiong’o 
  • The Islander – Tomás O’Crohan 
  • Y Fro Dywyll – Jerry Hunter 
  • Sgythia – Gwynn ap Gwilym 
  • Ymbelydredd – Guto Dafydd 
  • Lloerganiadau – Fflur Dafydd 
  • Anfarwol – Peredur Glyn 
  • Te yn y Grug – Kate Roberts 
  • Cysgod y Cryman – Islwyn Ffowc Elis 
  • Gweithiau Daniel Owen 

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. 

RHANNWCH