Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sut i Ddarllen: Geraint Iwan

Llenyddiaeth

Yn ymuno a Francesca Scarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan.

 

Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu.

 

Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth.

 

Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon.

 

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Rhestr Ddarllen

  • Congrinero – David Meredith
  • Rownd y Byd yn y Ras Falwnau Orau Erioed – Sue Scullard
  • Beibl y Plant Mewn Lliw
  • I Ble Aeth Haul y Bore? – Eurig Wyn
  • Dan Gadarn Goncrit – Mihangel Morgan
  • Cysgod y Cryman – Islwyn Ffowc Elis
  • Yn y Gwaed – Geraint V. Jones
  • Tân ar y Comin – T. Llew Jones
  • Jaws – Peter Benchley
  • Jurassic Park – Michael Crichton
  • Do Androids Dream of Electric Sheep? – Philip K. Dick
  • The Gone-Away World – Nick Harkaway
  • Ready Player One – Ernest Cline
  • I am Legend – Richard Matheson
  • Trioleg Extracted – RR Haywood
  • I, Partridge: We Need To Talk About Alan – Alan Partidge
  • The Rivers of London – Ben Aaronovitch
  • Cyfres The Bourne Identity – Roberts Ludlum
  • Straeon byrion Ruth Rendell
  • And Then There Were None – Agatha Christie
  • Cyfres A Game of Thrones – George R. R. Martin
  • The Martian – Andy Weir

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH