Mae’n fraint mawr gan griw Cyhoeddiadau’r Stamp gyflwyno Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi, y pamffled cyntaf o gerddi gan Llio Elain Maddocks (@llioelain ar instagram). Dyma gyfrol o ugain o insta-gerddi sydd, os nad ydych chi wedi llwyddo i ddyfalu hynny o’r teitl, yn ymateb i lot o stwff stiwpid ma hogia ‘di ddeud wrth yr awdur dros y blynyddoedd.
Dyluniwyd y clawr gan Erin Thomas, artist o Flaenau Ffestiniog, sydd hefyd wrthi’n creu darluniau o i gyd-fynd â cherddi Llio o fewn y pamffled. Gellir dod o hyd i’w gwaith ar instagram o dan @eerinart.
Byddwn yn rhyddhau mwy o fanylion dros y mis nesaf, ond am y tro, ac i godi eich gobeithion, dyma adolygiad o waith Llio gan un o hoelion wyth diwylliant Cymreig:
‘Erchyll.’ – Dei Tomos
Gallwch bellach ragarchebu’r casgliad o wefan Cyhoeddiadau’r Stamp: ystamp.cymru/cyhoeddiadau