Mae The Nemesis Machine yn ddarn mawr o waith sy’n cynrychioli cymhlethdodau’r ddinas amser real fel system sy’n newid a symud yn barhaol. Mae’n darlunio bywyd yn y metropolis ar sail data amser real sy’n cael ei ddarlledu o rwydwaith o synwyryddion, gan olygu bod y ddinas replica, o ddarnau electronig, yn adlewyrchu, mewn amser real, yr hyn sy’n digwydd y tu allan. Mae’r Nemesis Machine yn edrych yn debyg i Big Brother drwy lens Rhyngrwyd y Pethau. Mae’n rhoi golwg o’r awyr i’r ymwelwyr o ddinas seibernetig, clwstwr wedi’i animeiddio o ran ei olwg a’i sain o nendyrau a adeiladwyd o silicon a byrddau cylched.
Mae camerâu bychain yn tynnu lluniau o ymwelwyr y ddinas fel eu bod yn dod yn rhan o’r gwaith celf. Mae’r gwaith yma’n mynd y tu hwnt i ryngweithio syml gydag un defnyddiwr, drwy fonitro a bwrw golwg ar ymddygiad, gweithgareddau a gwybodaeth newidiol yn y byd o’n cwmpas gan ddefnyddio dyfeisiau wedi’u rhwydweithio a gwybodaeth wedi’i throsglwyddo’n electronig ar draws y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys arsylwi o bell drwy synwyryddion wedi’u creu’n bwrpasol, cyfrifiaduron a chamerâu wedi’u rhwydweithio. Mae’r gwaith celf yn diwygio’r wybodaeth a’r data yma gan greu’r hyn y mae’r artist yn ei alw’n ‘realitioedd paralel’.
Trwy’r Nemesis Machine, mae Stanza yn creu gofod cymdeithasol newydd sy’n bodoli rhwng y rhwydweithiau ar-lein annibynnol lle bydd dinasyddion y dyfodol yn cael eu cyfuno mewn amser real i greu dinasyddion data wedi’u cysylltu â’i gilydd. Daw’r tirlun yn rhywbeth y gellir ei wylio. Mae’r gwaith yma’n gofyn pwy sy’n berchen ar y data ac yn rhagweld y bydd ffiniau rhithwir yn creu systemau newydd o reolaeth.
Ffilmiwyd a golygwyd gan Philip Jenkins