Cartref digidol diwylliant Cymru.

Son of Chamber Symphony: UPROAR

Cerddoriaeth

Mae UPROAR – Ensemble Cerddoriaeth Newydd Cymru yn dychwelyd gyda’i brosiect diweddaraf ar gyfer 17 o gerddorion, gan hyrwyddo rhai o’r lleisiau mwyaf cyffrous ym myd cerddoriaeth glasurol Cymru heddiw ochr yn ochr â chyfansoddwyr rhyngwladol sydd wedi ennill sawl gwobr.

Tri darn newydd o gerddoriaeth glasurol feiddgar a fydd yn mynd â chi ar daith, wedi’u hysbrydoli gan fywyd cyfoes yng Nghymru ac yn ymdateb iddo.
Bydd UPROAR hefyd yn perfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr rhyngwladol adnabyddus.
Mae trac sain deinamig Olga Neuwirth yn ategu ffilm haniaethol chwareus Viking Eggeling yn ei darn ‘Symphonie Diagonale’. Ac yn ‘Son of Chamber Symphony’ gan John Adams, cyfansoddwr byw mwyaf poblogaidd y byd, disgrifiwyd y symudiad olaf yn y Los Angeles Times fel ‘..one of those Adams bucking-bronco blastoffs, riveting and full of surprises.”

RHANNWCH