Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sgwrs am senglau hyfryd Hyll

Cerddoriaeth

Mae’r ffin rhwng hapusrwydd a thristwch ym melodïau myfyriol Hyll yn un hynod denau. Mae’n debyg mai eu gonestrwydd a’u hamrydedd sy’n gyfrifol am lywio’r meddylfryd hwn, cyfuniad gwbl apelgar. Er bod y pedwarawd o Gaerdydd wedi llwyddo i’n llonni dros y cyfnod clo maent hefyd wedi dwyn perswâd ar ambell i ddeigryn hiraethus yn y broses. Sôn ydw i am eu fideos byrion (demos) wrth gwrs: cymysgedd hyfryd o olygfeydd graenog, geiriau craff ac alawon cariadus. Cymysgfa sydd bron, yn ddigon i leddfu’r gwacter mae Covid wedi ei greu. Mae’n wiyrd ond ma’n wir.
Daw sglein y demos diweddar drwy symlrwydd pur – eu sgerbwd minimalaidd yn cynnig datblygiad pellach i drefniannau haenog Rhamant. Tra bod chwibanu chwareus ‘Womanby II’ yn ein llyncu i ramantu am atgofion coll (Clwb), mae’r demo diweddaraf ‘Coridor’, yn cynhesu’r galon. Gan ddefnyddio’r piano fel glud y gan, mae llais noeth Iwan yn gweddu i’w chynhesrwydd hi – y cwbl wrth i hogiau Hyll ein tywys ar daith i Aberteifi.
Eglurodd Owain, y dyn tu ôl i’r camera, y syniad dros glymu’r gerddoriaeth a’r fideos a’i gilydd:

Owain: Fi’n credu taw ond yn ddiweddar ni wedi sylwi pa mor bwysig yw creu fideos, nid yn unig i roi bach o gymeriad i’r caneuon, ond er mwyn rhoi mwy o bersonoliaeth i ni fel band. Ges i’r syniad am y fideos o’r film hyfryd Submarine, sy’n cynnwys montage super 8 tebyg . Fi bach yn clueless pan mae’n dod i gwaith golygu, felly odd e’n gyfle neis i gael tro arno fe a dysgu bach mwy am y broses. Y sialens mwyaf oedd gorfod creu fideo gyda beth oedd gyda ni yn barod, yn hytrach na mynd allan a ffilmio. Gath y rhan fwyaf o Coridor ei ffilmio ar hen camcorder; a Womany II ar ffonau symudol pissheads Clwb Ifor Bach!

OW: Sut broses oedd hi felly i greu a thrio bod yn greadigol wrth i’r byd aros yn llonydd?

Iwan: Siwr bod y sefyllfa lockdown di bod ychydig yn rhyfedd ac yn anodd a stressful a boring i bawb. ‘Na fel ma hi di bod i ni. Chi’n teimlo fel bo chi fod bod yn productive a neud pethau ond ma neud unrhywbeth mawr kind of yn amhosib. O’ ni gyd yn awyddus i drio neud cerddoriaeth newydd ond doedd dim llawer yn mynd ymlaen i ni allu sgrifennu amdano, ac i fi, byse hi’n teimlo bach yn amharchus i wario egni ni gyd ar greu indie rock efo popeth sydd di bod yn mynd ymlaen. Yn hytrach na trio sgwennu unrhywbeth o’r newydd, aethon ni nol ychydig bach at hen ganeuon odd mewn cyflwr iach ond falle heb ffeindio catref ar EP neu fel sengl. Womanby 2 odd un o rhain. Gath hi ei sgwennu yr un pryd a’r Womanby cyntaf ond am ba bynnag reswm heb cal ei rhyddhau. Credu odd pawb yn ofni chwarae rhywbeth mor araf.


OW: Bosib ein bod ni gyd wedi’n dal yn myfyrio ar adegau ond mae’r cyfnod clo yn bendant wedi arwain at ambell i brosiect creadigol. O le ddaeth y syniad i greu Womanby II?

Iwan: Cymrodd Owain demo nes i a rhoi fideo at ei gilydd. Gath y fideo yna argraff mawr arno ni gyd. Nath hi drawsnewid ystyr y gân. Odd pob un o’ ni’n awyddus i gal clips oddi wrth grwpiau gwahanol a chydig o amrywiaeth yn y fideo so nathon ni ofyn i mates ni gyfrannu footage a lluniau, a nath Owain roi nhw gyd at ei gilydd. Nes i demo gwell a dyna ni. O’ ni’n chuffed efo’r canlyniad. Ma’r ymateb gaethon ni i’r gân yn anhygoel i ystyried bod hi’n gân weddol wirion. Dwi’n siwr bod hynna’n ran mawr o be ma pobl yn colli efo lockdown, jest i allu adael fynd o bethau a ddim poeni am ychydig. Mae’n dangos cryfder y cysylltiad rhyngddo pobl a’r venues ma nhw’n caru. Ma hwnna’n rywbeth gwerthfawr dros ben.

OW: Amhosib yw sôn am leoliadau gigs heb dynnu enw Clwb Ifor Bach i mewn i’r drafodaeth – faint o ran mae’r lleoliad hwnnw wedi’i chwarae ym mlynyddoedd cynnar Hyll?

Owain: Falle bod pobl yn teimlo bo ni’n mynd on and on am Clwb gormod, ond ma fe rili yn lle mor bwysig i ni fel band. Nid yn unig y cyfleoedd ni wedi cael o ran gigio yna, ond y rol ma’r lle wedi chwarae yn ein bywydau cymdeithasol ni wrth dyfu lan yng Nghaerdydd. Ma siarad shit i rhywun ti ddim rili yn nabod ar ôl cael un peint yn ormod yn rhan bwysig o dyfu lan! Nes i rili joio pori trwy hen fideos o nosweithiau mas yn Clwb, a sticko nhw at eu gilydd i gyd-fynd gyda’r gan nath Iwan sgwennu (Womanby 2). Oedd isie rhywbeth ychwaengol i’r fideo, felly penderfynon ni ychwanegu text drosto yn debyg i steil music fideo y trac ‘Glue’ gan Bicep, sy’n llwyddo i droi shots eitha mundane mewn i rhywbeth sy’n meddwl lot yn bersonol i grwp penodol o bobl. Yn yr achos yma, y grwp o bobl oedd y Clwb Ifor Bach ultras!

OW: Ma’ cofnodi’r cyfnod drwy gyfrwng fideos byrion yn syniad hyfryd. Er yn gân gwbl wahanol, ydi hi’n deg i ddweud bod yr un ymdeimlad hiraethus yn perthyn i ‘Coridor’?

Owain: Nath Iwan yrru’r demo o Coridor i ni sbel yn ol, heb y bwriad o rhyddhau y fersiwn piano o gwbl. Oedd digwydd bod y footage camcorder gyda ni o’n trip i Aberteifi, sef gig nath droi mas i fod yn un sbesial gan taw hwn oedd yr olaf cyn y lockdown. Gan fod y gan yn trafod agweddau o dyfu lan fel oedolyn ifanc, bwriad y fideo oedd i ail-greu yr agwedd nostalgic sydd ar y trac.

Iwan: Nes i ddanfon y demo i’r gweddill probably dros flwyddyn yn ôl a dyw nhw dal heb ddysgu sut i chwarae hi. Ma hi’n gan eitha anarferol i ni gan bod hi’n edrych ymlaen i’r dyfodol yn hytrach na myfyrio dros brofiadau fel rhan fwyaf o’n caneuon. Dwi’n hoffi’r un yma eitha lot. Mae’n yn atgoffa fi o fy ffrindiau sydd bach yn hŷn ac mewn phase bywyd chydig yn wahanol. Dyna be odd sail y gân really.

Bedwyr: I fod yn gwbl onest, dwi byth wedi dysgu yr un o’r caneuon ac hyd yn oed yn meimio ar yr EP dwethaf! Sôn am y trip i Aberteifi, pob tro ni wedi bwrw draw i’r gorllewin mae pethau wedi mynd braidd yn weird i ni – lwcus bo ni heb recordio gig Clwb Rygbi Crymych…

OW: Y gobaith ar ddechrau’r flwyddyn oedd rhyddhau albym rhif 1. Doedd neb yn rhagweld pandemig byd-eang wrth gwrs felly ydi hyn wedi rhoi golwg gwahanol ar bethau o bosib?

Iwan: Mae’n anodd gwybod pa fath o effaith mae di gael, siŵr bod pawb yn weddol ansicr o’r dyfodol ar hyn o bryd. Na pam o ni gyd yn awyddus i drio recordio a ryddhau pethau pob tro ma da ni’r cyfle. Falle odd ambell ffan o Hyll yn gobeithio am album leni ac ond di cal dwy sengl a crys T, so mae’n flin da ni am hynna. Ni’n upset hefyd.

OW: Wrth i berfformiadau byw bron a bod a diflannu dros y misoedd diwethaf, daw fwy o amser i wrando a dwyn ysbrydoliaeth gan artistiaid eraill. Oes disgwyl i hyn dreiddio i’ch creadigrwydd fel band?

Owain: Yn amlwg ma’r cyfnod wedi bod yn rhywstredig o safbwynt sgwennu tiwns newydd, ond ma di bod yn gyfle i gael bach o seibiant ac i wrando ar albums gan cerddorion gwahanol. Er enghraifft, fi wedi ail-feddwl drums fi gyd ar ol obsessio dros album newydd Fontaines D.C.! Ni di bod yn cynnal album listening parties ar discord fel band, ac ma trafod cerddoriaeth yn y ffordd yma wedi gwneud i ni feddwl mwy am ein album ni.

Iwan: Credu bo ni mewn sefyllfa gwell na rhai o’n cyfoedion sy’n trio neud bywoliaeth allan o gerddoriaeth naill ai mewn bands neu’n gweithio yn y diwydiant. Nhw dwi’n poeni amdanyn nhw.

Bedwyr: Ar ddechrau’r cyfnod clo roedd gen i dipyn o syniadau ar gyfer caneuon newydd a geiriau i ambell un hefyd, ond nes i sylweddoli ar ol rhai wythnosau ei bod hi bron yn amhosib mynd yn bellach, datblygu a gorffen y caneuon gan fod bywyd wedi bod mor undonnog! Fy ngobaith i nawr yw bydd gennym ni lawer o stwff newydd (efallai senglau neu albym / EP arall) wedi i fywyd ddychwelyd at fwy o normalrwydd gan ei bod yn haws cael ysbrydoliaeth wrth adael y ty bob nawr ac yn y man.

OW: Diolch am y sgwrs a phob hwyl dros y misoedd nesaf!

Owain: Mi fydd album Hyll yn cael ei rhyddhau rhywbryd cyn y flwyddyn 2025.

RHANNWCH