Mae Clwb Ifor Bach, Maes B ac Urdd Gobaith Cymru yn falch iawn o gyhoeddi cyfres newydd o sesiynau diwydiant i bobl ifanc 16+. Dros gyfnod o bedair wythnos, mi fydd gweithdai cyffrous mewn amryw o feysydd yn digwydd dros Zoom, wedi’u harwain gan rhai o unigolion proffesiynol fwyaf blaengar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Mi fydd y sesiynau yn rhoi’r cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda thechnegau mewn pedwar maes penodol: ffilmograffeg, cyfansoddi, cynhyrchu a dylunio. Nid oes angen profiad blaenorol ac mae’r sesiynau am ddim.
Dyma’r sesiynau sydd ar gael:
Gweithdy Ffilm gyda Griff Lynch (Yr Ods)
Creu fideos a dogfennau i gerddoriaeth ac artistiaid a’u golygu
Pob nos Lun | Ionawr 25 – Chwefror 15
Ysgrifennu Cerddoriaeth gyda Heledd Watkins (HMS Morris)
Dysgu dulliau newydd a chyfoes o ysgrifennu caneuon
Pob nos Fawrth | Ionawr 26 – Chwefror 16
Ail Gymysgu a Chynhyrchu gyda Endaf Roberts (High Grade Grooves Records)
Sut i gynhyrchu cerddoriaeth electronig a sut i ail-gymysgu cerddoriaeth boblogaidd
Pob nos Fercher | Ionawr 27 – Chwefror 17
Gweithdy Celf a Dylunio gyda Steffan Dafydd (Breichiau Hir/Penglog)
Sut i gyfuno prosesau digidol ac analog a chreu gwaith celf i safon uchel a proffesiynol
Pob nos Iau | Ionawr 28 – Chwefror 18
Dywedodd Lewys Wyn o’r Urdd: “dyma gyfle hollol wych i unrhyw berson ifanc 16+ sydd a diddordeb mewn cerddoriaeth, celf a ffilm. Wyt ti’n berson ifanc sydd wedi ystyried rhyddhau cynnyrch dy hun, creu darn o gelf neu ffilm i artist, ond o bosib nad wyt ti’n hollol shwr o sut i wneud hynny? Dyma’r cyfle i ti ddysgu mwy am sut i sefydlu dy hun fel enw adnabyddus o fewn y sin gerddorol a celfyddydol yng Nghymru. Mae hwn yn gyfres o weithdai hollol arbennig, paid a’i fethu!”