Prosiect sydd yn anelu at chwalu tabw am y menopôs er mwyn cefnogi pawb i ddeall y newid allweddol ym mhrofiadau merched o’r byd.
Mae Cylchdro a Mwy yn hynod falch i gydweithio gyda Cyngor Gwynedd ar gyfres o weithdai creadigol ac adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg i staff y Cyngor ac i gyfranogwyr o fewn cymunedau yng Ngwynedd fydd yn rhedeg o Hydref 2024 tan fis Mawrth 2025.
Rydym am i’r prosiect yma fod yn ddefnyddiol, priodol ac arloesol, ac os oes ganddoch chi unrhyw syniad, awgrym neu gais am weithgaredd cysylltwch dros ebost neu dros y cyfryngau cymdeithasol. Does yna ddim un syniad rhy fach!
Mi fyddwn ni yn Porthi’r Dre, Caernarfon yn cynnig sesiynau creadigol fydd yn edrych o bersbectif newid gan ystyried y peri-menopôs a’r menopôs a sut yden ni’n ‘nabod ein hunain a chysylltu efo natur i wynebu newidiadau sy’n gallu bod yn heriol. Agored i bob merch dros 18 oed. Does dim rhaid bod yn profi symptomau peri-menopôs/menopôs i ymuno, mi yden ni’n awyddus i godi ymwybyddiaeth i bawb.
Medi 25, Hydref 2, Hydref 9 a Hydref 16 am 11:30 – 12:30.