Yn lle gŵyl yn ei ffurf arferol, bydd Sesiwn Fawr 2021 ar ffurf ddigidol, ond yn cynnwys perfformiadau wedi’u ffilmio i’r safon uchaf yn rhai o leoliadau fwyaf eiconig tref Dolgellau.
Mwynhewch setiau cerddorol gan VRÏ, I Fight Lions, Glain Rhys, Derw, Beca, Huw Dylan a sesiwn jazz, yn ogystal â sesiynau comedi neu lenyddol eu naws gan Hywel Pitts, criw Podlediad Colli’r Plot, Y Pump (lansiad nofelau gan Wasg y Lolfa), a darn o waith arbennig gan gylchgrawn O’r Pedwar Gwynt.
Bydd tafarndai’r dref yn darlledu’r gerddoriaeth dros y penwythnos mewn cefnogaeth i’r ŵyl, a gellir hefyd trefnu casglu bocs o ddanteithion a nwyddau arbennig o siop Gwin Dylanwad i’w mwynhau adref ac i nodi’r achlysur.
Mae’r Sesiwn Fawr yn edrych ymlaen at ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r ŵyl yn 2022, gan obeithio croesawu pawb yn ôl i Ddolgellau bryd hynny!