Cyflwyna TEN arddangosfa o baentiadau newydd gan Seren Morgan Jones. Cynhwysa MABINOGION [rhan un] 8 portread o gymeriadau y mabinogi a chwedlau Cymru, wedi’u dychmygu o’r newydd yn fenywod cyfoes.
Dyma Morgan Jones yn dilyn ôl traed ei mamgu – yr artist Margaret Jones a ddyluniodd gyfaddasiad Gwyn Thomas o chwedlau’r Maginogion yn yr 1980au – dewleddau sy’n cymaint rhan o ddiwylliant a iaith gweledol Cymru. Gwel yr arddangosfa ymdriniaeth nodweddiadol Morgan Jones o’i thestun a datblygiad pellach o’i harddull paentio gain.