Wedi’i ysbrydoli gan eiriau hen a newydd yn ymwneud â’r amgylchedd, mae’r pianydd Tristian Evans wedi cyfansoddi darnau i’r piano mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd sydd yn ein gwynebu. Gan fabwysiadu’r broses o ailgylchu mewn cyd-destun creadigol, mae’n plethu hen alawon crefyddol, deunydd gweledol o’r archif, testunau o’r Beibl, a lleisiau ieuenctid, ac fe ddaw’r cyfan yn fyw mewn dau waith amlgyfrwng i’r piano.
Mae Dŵr, Haul, Gwynt, Golau yn integreiddio geiriau amgylcheddol gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â delweddau sy’n cydfynd hefo sgôr i’r piano. Yna perfformir Tir (Creadigaeth/Etifeddiaeth), sydd yn ymateb i’r syniad o greadigaeth ac etifeddiaeth o’r ddaear, wedi’i ddylanwadu gan gyfeiriadau Beiblaidd a chefndir teuluol y pianydd ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.