Mewn cyfweliad ym mhapur newydd yr Independent yn Iwerddon yn 2017 cyfeiriodd yr actor byd-enwog Patrick Stewart at wersi actio a gafodd fel bachgen ifanc gan actores o’r enw Ruth Wynn Owen. Nododd hefyd fod yna ddyn ifanc arall yn mynychu’r un gwersi sef yr enwog Brian Blessed. Cyfeirir ati yn aml fel actores Gymreig.
Ganwyd Ruth ar 20fed Ionawr 1915 yn Monmouth Road, Watford. Roedd ei thad, Reginald Wynn Owen yn fab i Elijah Owen a oedd yn ficer o Ynys Môn. Fe’i bedyddiwyd tra bo’r teulu ar ymweliad gyda chwaer Reginald, Mary, yn New Brighton. Mae’n debyg nad oedd ei thad yn hoffi byrhau ei enw i “Reg” felly rhoddodd enwau i’w blant na ellid eu byrhau – Lindis, Ruth, Eric ac Elaine. Cafodd pob un ohonynt yr enw canol Wynn, fel eu tad.
Yn ôl hanes y teulu dysgwyd Ruth i ddarllen pan oedd yn ddwy oed gan ei nain, Elizabeth Owen, a hanai o’r Trallwng. Dysgodd chwedlau gwerin Cymru a medrodd eu hailadrodd, gan greu perfformiadau ohonynt gyda’i brawd a’i chwaer. Ymhlith eu cynulleidfaoedd roedd aelodau’r teulu a morynion y cartref. Roedd ei hen ewythr, Elias Owen, yr hynafiaethwr o Faldwyn, a gyhoeddodd y llyfr Welsh Folklore yn 1896.
DARLLEN MWY