Cartref digidol diwylliant Cymru.

– N. M. Thomas

Un o ddarluniau mwyaf eiconig propaganda Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw portread o’r enw Ruby Loftus Screwing a Breech Ring gan yr arlunydd Laura Knight.
Daw’r llun o’r ffatri Royal Ordnance yn Corporation Road, Casnewydd lle treuliodd Laura Knight dair wythnos yn darlunio Ruby.
Ganwyd Ruby Loftus yn Llanhilleth ac roedd yn byw gyda’i thad, Harold, a’i mam, Martha. Symudodd y teulu i Finchley pan gafodd ei thad waith gyda Shellmex. Bu Ruby yn gweithio mewn siop tobacco yn Monkville Parade yn Finchley, ond yn ystod y Blitz dychwelodd y teulu i Gasnewydd ac aeth Ruby a’i dwy chwaer i weithio yn y ffatri. Roedd eu brawd yn y llynges a’u mam yn gweithio fel porthor ar y rheilffordd yn ystod y rhyfel.
Ym mis Ionawr 1943 cafodd Laura Knight gomisiwn gan y Weinyddiaeth Gwybodaeth i baentio Ruby at ddibenion propaganda. Daeth y gwaith yn symbol o’r hyn yr oedd merched yn ei gyfrannu at yr ymgyrch rhyfel.
DARLLEN MWY

RHANNWCH