Helpwch ni i ddathlu
Diwrnod Shwmae Su’mae, 15fed o Hydref, 2021!
Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, yn yr ysgol, ar y maes chwarae a gyda’ch ffrindiau, ar-lein neu wyneb yn wyneb!
Cofiwch roi gwybod i ni am ddigwyddiadau 2021, er mwyn i ni helpu hysbysebu a hyrwyddo!
Sut fyddwch chi’n ailgysylltu â’r Gymraeg eleni? Tagiwch ni yn eich lluniau a’ch gweithgareddau! Rhannwch eich stori gyda ni mewn fideo! @ShwmaeSumae21