Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhifyn Mawrth Y Cymro

No Categories Found

Mae dyfodol ein gwlad yn cael sylw o sawl cyfeiriad yn rhifyn Mawrth Y Cymro.

Mae gan ambell un weledigaeth glir am sut ddylai’n byd ni edrych ar ôl i’r pandemig gilio.

Mewn colofn barn mae’r AS Liz Saville-Roberts yn cyfeirio at yr her sy’n ein hwynebu ni i gyd
wrth ddatgan bod y pleidiau mawr yn ‘ceisio’n darbwyllo nad ydy’r gallu gyda ni i afael yn ein
dyfodol ein hunain’

Neges groch am ‘gymunedau nid cyfalafiaeth’ sydd gan Gymdeithas yr Iaith yn eu colofn y mis
hwn wrth dynnu sylw eto at ddifrifoldeb argyfwng y farchnad dai.

Ond mae llewyrch o obaith gan Gruffydd Meredith sy’n cynnig datrysiad arloesol er mwyn sicrhau
parhad ein cymunedau Cymreig – sydd yn ein dwylo ni!

Clodfori trysor cuddiedig bro Gymraeg a wrthododd farw mae Lyn Ebenezer tra bod Esyllt Sears yn
teimlo ryw wytnwch erbyn hyn bod pethau gwell ar y gorwel i ni oll ar ôl y misoedd tywyll.

Mae mudiad Cylch yr Iaith yn cwestiynu’r gefnogaeth i droi ardal y llechi yn Safle Treftadaeth y
Byd gan y bydd – yn eu barn hwy – yn creu mwy fyth o dwristiaeth niweidiol i’r iaith.

Gorfod torheulo mewn mwgwd yn haul Sbaen mae’r colofnydd Cadi Edwards tra bod Dylan Wyn
Williams yn diolch am ‘ddihangfa bleserus’ rhaglen ‘Am dro’ ar S4C â ninnau’n sownd adref.

Mae erthygl ddiddorol hefyd gan yr hanesydd Mel Hopkins am y map hynaf o Gymru. Dal i
ddadlau mae’r arbenigwyr am yr hyn sydd i’w weld arno ond does dim amheuaeth bod y Fenai yn
ddigon llydan ar y map hwn!

Rydyn ni’n croesawu’r colofnydd chwaraeon, Sioned Dafydd, y mis yma hefyd. Mae hi’n craffu ar
yr holl gasineb annealladwy tuag at chwaraewyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ac yn ôl yr arfer mae sylw i lyfrau newydd, moduro, garddio, cerddoriaeth, a straeon newyddion o
sawl rhan o Gymru.

Mae’r Cymro ar gael nawr mewn sipoau ar draws Cymru. I dderbyn drwy’r post bob mis cysylltwch
gyda ni i drefnu tanysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27:gwyb@ycymro.cym

RHANNWCH