Cyflwynodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol fel rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, roedd rhaid canslo digwyddiadau ddiwedd yr wythnos o ganlyniad i’r coronafeirws.
Y digwyddiad cyntaf oedd REIC x Y Stamp: Perfformiad Barddoniaeth a’r Gair Llafar, noson amlieithog o farddoniaeth a’r gair llafar i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac i ddathlu’r cysylltiadau diwylliannol hen a newydd rhwng y ddwy genedl. Gan ddarparu llwyfan i’n hieithoedd cynhenid, roedd y digwyddiad hwn yn arddangos doniau llenyddol Cymreig a Gwyddelig.