Rebecca Thomas
Mae Rebecca Thomas yn ysgolhaig ac awdur creadigol sy’n arbenigo ar hanes, diwylliant, a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol. Ei phrif faes ymchwil yw’r broses o greu hunaniaethau Cymreig mewn testunau canoloesol, ac mae ei llyfr History and Identity in Early Medieval Wales (Boydell & Brewer, 2022) yn archwilio sut y defnyddiwyd enwau, tiriogaeth, iaith a chwedlau tarddiad i lunio hunaniaeth genedlaethol. Enillodd Wobr Francis Jones am Hanes Cymru (2022) a Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru (2023) am ei chyfraniad i’r Dyniaethau. Mae ei hymchwil gyfredol, a ariennir gan yr Academi Brydeinig, yn canolbwyntio ar rôl gwystlon yng Nghymru’r Oesoedd Canol ac ar gysylltiadau diwylliannol a gwleidyddol Cymru â’r byd ehangach.
Yn ogystal â’i gwaith academaidd, mae Rebecca yn awdur creadigol ac wedi cyhoeddi dwy nofel hanesyddol ganoloesol i bobl ifanc, Dan Gysgod y Frenhines (2022) a Y Castell ar y Dŵr (2023). Yn 2022 fe’i phenodwyd yn Awdur Preswyl Cymraeg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan greu’r nofel Anturiaethau’r Brenin Arthur (2024) mewn ymateb i’r argyfyngau natur a hinsawdd. Enillodd ei hysgrif Cribo’r Dragon’s Back wobr gyntaf O’r Pedwar Gwynt yn 2021, ac yn 2025 bydd yn Artist Preswyl yn Ynys Enlli ac yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli.

David Callander
Mae David Callander yn ysgolhaig llenyddol ac arbenigwr ar y canol oesoedd, yn arbenigo mewn barddoniaeth gynnar Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol. Mae ei ymchwil yn gymharol ei natur ac yn archwilio’r hyn y gellir ei ddysgu drwy ddod â thraddodiadau llenyddol cyfoes ond amrywiol ynghyd, gan gymharu testunau Cymraeg Canol, Hen Saesneg, Saesneg Canol, a Lladin ganoloesol. Mae hefyd yn cynnal ymchwil gymharol rhwng testunau Lladin a’r ieithoedd Celtaidd eraill. Ymhlith ei ddiddordebau eraill mae archwilio sut y gall damcaniaeth lenyddol fodern a llenyddiaeth ganoloesol oleuo ei gilydd, ac astudio sut mae testunau canoloesol wedi cael eu trawsffurfio ar ôl y cyfnod canoloesol. Dyma oedd ffocws ei lyfr diweddaraf Trawsffurfio’r Seintiau (Gwasg Prifysgol Cymru, 2024), sy’n seiliedig ar yr antholeg hagiograffaidd dairieithog Yale, Osborn fb229.
Preswyliad Ysgrifennu – 16–30 Awst 2025
Bu David a Rebecca yn treulio pythefnos ar Ynys Enlli fel Artistiaid Preswyl, yn parhau eu gwaith ymwchil ag ysgrifennu ar Fynaich a Seintiau’r ynys!
Mae David Callander yn ysgolhaig sy’n gweithio ar lenyddiaeth ganoloesol. Mae wedi ymdrin â hanesion seintiau Cymru’r Oesoedd Canol, gan olygu nifer o destunau ar gyfer golygiad seintiau,cymru a chyhoeddi ei lyfr diweddaraf, Transforming the Saints: The Yale Manuscript of the Lives of the Saints, University of Wales Press, 2024 ar y pwnc hwn. Mae Rebecca Thomas yn hanesydd a nofelydd. Mae wedi cyhoeddi tair nofel i oedolion ifanc gyda Gwasg Carreg Gwalch (Dan Gysgod y Frenhines; Y Castell ar y Dŵr; Anturiaethau’r Brenin Arthur) a chyhoeddwyd ei cc nofel gyntaf i oedolion, Y Tŵr, gan Sebra yn Ebrill 2025.