Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rebecca F. Hardy

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau.

 

Artist y Mis ar gyfer mis Rhagfyr yw Rebecca F. Hardy, artist gweledol amlddisgyblaethol wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r cydbwysedd rhwng ychydig a gormod, yr hyn sy’n bleserus yn weledol ac anhrefn llwyr, yn rhywbeth rydw i’n chwarae gydag yn gyson.”

 

Mae fy ngwaith yw archwilio defnyddiau a’r perthynas rhwng arwyneb a gwrthrych, lliw, haenau, a phatrymau. O ddarluniadau i brintiau sgrin, ffotograffiaeth, fideo, celf fyw, ffurfiau cerfluniol a gosodweithiau.

 

Mae ymchwil a defnydd o anatomeg ddynol, gwrthrychau domestig a bob hyn a hyn fy nghyflwr meddwl wedi mewnblannu mewn i’r gwaith. Mae gwneud printiau sgrin, cerfluniau a gosodweithiau yn gweithredu fel dysglau a throsiadau ac yn cydfodoli ag amrywiaeth o ddeunyddiau a’r gofod mae ynddo dros dro.

 

Mae fy mherthynas â chreu yn drai a thrai ond dros y 4 blynedd diwethaf rwyf wedi adfywio fy ymarfer creadigol ac mae fy nwyd am ddysgu yn amlwg. Cyn Covid-19 cefais grant Creu bach gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer fy mhrosiect MEWNrhwng. Roedd hwn yn gydweithrediad gyda 3 artist arall Jenny Cashmore, Najia Bagi a Gemma Lowe. Cyfarfod ar-lein a rhannu syniadau ac egni creadigol ein gilydd. Buom yn arddangos arddangosfa amlddisgyblaethol yn Oriel CARN, Caernarfon ac Oriel Elysium, Abertawe yn 2021. Hwn oedd y catalydd yr oeddwn i angen er mwyn creu celf weledol ac ysgrifennu, gan arddangos cerfluniau, ymyriadau bach a ffotograffiaeth yn ogystal â barddoniaeth.

 

Derbyniais yr Eirian Llwyd Honorary Memorial Award am wneud printiau yn 2022, arddangos gwaith celf ochr yn ochr ag enillydd 2022 Sarah Gavey, enillwyr blaenorol a chasgliad Eirian Llwyd o waith celf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Roedd ennill fy ngwobr yn rhoi’r hyder i fi a’r cadarnhad yr oeddwn i angen i gredu ynof fy hun fel artist.

 

Yn yr un flwyddyn cefais fy nerbyn i arddangos yng Ngwobr Gelf DAC 2022 a deithiodd ledled Cymru mewn 6 lleoliad, g39, Amgueddfa Cwm Cynon Galeri, Tŷ Pawb, Oriel Davies, Glynn Vivian. Roedd llawer o leoliadau nad oeddwn i wedi arddangos mewn o’r blaen, felly roedd cael y cyfle hwn yn wirioneddol yn eithriadol i mi.

 

Roedd fy arddangosfa unigol gyntaf mewn sefydliad yn Pontio, canolfan celfyddydau perfformio ym Mangor ar ddiwedd 2023, roedd y fwrsariaeth fechan a gefais gan gylchgrawn a-n ar ddechrau’r flwyddyn yn fy ngalluogi i archwilio a datblygu fy ngwaith celf ar gyfer yr arddangosfa. Roedd ‘Yr Hyn Sy’n Pylu / Of That Which Fades’, sef corff newydd o waith, printiau sgrin ar bren haenog, lluniadau finyl a gosodweithiau yn cyflwyno gweithrediadau cynnil o haenau a datganiadau cryf o liw a ffurf. Mae’r ffurfiau haniaethol yn deillio o’m hastudiaeth a’m dealltwriaeth fy hun o fy ymennydd dyslecsig / niwroamrywiol. Yn arddangos am y tro cyntaf ymson ysgrifennais a darllenais hefyd gyda delweddau symudol. Rhannu rhai teimladau a barn amrwd a gonest gyda’r cyhoedd am sut dwi’n gweld y byd o fy ymennydd. Mae’r cydbwysedd rhwng ychydig a gormod, yr hyn sy’n bleserus yn weledol ac anhrefn llwyr, yn rhywbeth rydw i’n chwarae gydag yn gyson. Gwyliwch yma. 

 

Ers mis Mai eleni rwyf wedi dechrau creu eto ac roeddwn i’n ffodus i dderbyn cyllid egin gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth y DU ar gyfer fy mhrosiect ‘Dy Werth / Your Worth’. Cloddi’n ddyfnach, ymchwilio, arbrofi gyda rhai o’r cwestiynau a oedd wedi codi wrth ysgrifennu fy ymson am oedi, syndrom imposter a’n hunanwerth. Bydd casgliad o fy ngwaith celf, brintiau sgrin, ysgythriadau a dry-points newydd o ‘Dy Werth’ yn cael eu harddangos yn Oriel Ysbyty Gwynedd rhwng Rhagfyr 2024 a Mawrth 2025.

 

Mwy o wybodaeth am waith Rebecca:

Instagram: www.instagram.com/_rebeccafhardy

Gwefan: https://www.rebeccafhardy.com/

RHANNWCH