Cartref digidol diwylliant Cymru.

Raffl – Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Llenyddiaeth

Yn Hydref 2021 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol o straeon byrion gan Aled: Tynnu. Ymestyn i’r un cyfeiriad yw’r nod yn y gyfrol hon.

Meddai’r awdur: “Nid wyf erioed wedi bod yn or hoff o realaeth. Ac o ddydd i ddydd rhowch i mi’n wastad y rafin o flaen y ddynes dda neu’r dyn da. Os oes gennyf bwnc, amwysedd moesol yw hwnnw. Rhywle ymhlith hyn y bydd y storïau newydd hyn yn tindroi.

Mae pethau eraill. Ers tro’n byd rwy’n ymwybodol fod rhai pethau a fu’n bwysig i mi yn dyfod i ben. Ni welaf yng Nghymru unrhyw ddyfodol i Gristnogaeth, er enghraifft. Fy arswyd nad yw’r iaith Gymraeg mor ddiogel ag a fynn rhai.

Gwynt teg ar ôl ambell beth: byddwn wrth fy modd medru dweud fod cyfalafiaeth ar fin diflannu gyda’r chwaer hyll

Torïaeth ar ei hôl. Ond nid felly mae hi. Teimlaf fod egin rhyw newydd-deb ar ddod. Nid o angenrheidrwydd yn ddaionus.

Wedi’r cyfan, mae’r newid hinsawdd yma’n barod. Mae pethau’n chwalu. O’r ymdeimlad yma o chwalfa y daw’r storïau hyn. Bydoedd gwyrgam sydd yma. A pobl sy’n dyllau i gyd heb ruddin.”

Prynwch yma.

RHANNWCH