Adwaith – ETO
Mae ETO wedi bod yn sengl hynod o boblogaidd ers ei ryddhau wrth i ffans Adwaith edrych ymlaen i hail-albwm y triawd o Gaerfyrddin. Mae’r gân, a ryddhawyd ar Recordiau Libertino, wedi ei chwarae ar draws y byd, ei restri ar C-List rhestr Chwarae BBC 6 Music, a roedd yn Song of the Day KEXP.
Bandicoot
Bu mis Mawrth yn yffach o fis i Bandicoot. Rhyddhau eu halbwm cyntaf, Black After Dark, gyda lansiad ar lawr dop Clwb, chwarae yn nigwyddiadau ffrinj gŵyl 6 Music yr wythnos hon, ac maen nhw newydd ddychwelyd o Texas yn chwarae yn SXSW. Mae nifer o luniau o’u hamser yn yr UDA draw ar eu Instragram ac maen nhw werth eu gweld.
Sŵnami – Ble Bynnag Fydd
Mae Sŵnami yn ôl gyda sengl newydd ac mae eisioes wedi creu argraff. Bydd brecwastwyr bore Sul rhai pewythnosau yn ôl wedi mwynhau gweld fideo gwych y gân yn cael ei arddangos ar Sunday Brunch. Cafodd y trac hefyd ei gynnwys ar New Music Friday UK Spotify i dros 802,000 o ddilynwyr!
Tara Bandito – Drama Queen
Mae derbyniad Tara Bethan yn dychwelyd i’r spotlight fel pop star o dan yr enw Tara Bandito, enw a ysbrydolwyd gan ei diweddar dad, y reslwr Orig Williams neu El Bandito. Mae dau o’u tri sengl wedi’u cynnwys yn A-List BBC Radio Wales, mae hi wedi ymuno â thaith BBC Gorwelion o Gymru, a chafodd fideo ei trydydd sengl, Drama Queen, bremiere draw ar wefan Focus Wales.
Pob un o recordiau Mawrth:
1.3 – albwm Artistiaid Amrywiol – Sesiynau Ambell i Gân (Sain)
1.3 – albwm Traddodiad Ofnus – Traddodiad Ofnus (Ankst)
3.3 – sengl Pigeon Wigs – Death of a King (Clwb Music)
3.3 – sengl Dafydd Pantrod a’i Fand – Godwn Ni Eto (Hambon)
4.3 – sengl Sky Barkers – Beholden to None (Bubblewrap)
4.3 – sengl Ffracas – Gwingo (I KA CHING)
4.3 – sengl Shamoniks x Lisa Pedrick – Seithfed Nef (UDISHIDO)
4.3 – albwm Bandicoot – Black After Dark (Libertino)
11.3 – sengl Mari Mathias – Annwn (JigCal)
11.3 – sengl Mali Haf – Paid Newid Dy Liw (JigCal)
11.3 – sengl Blodau Papur – Morfydd (I KA CHING)
11.3 – EP Ynys Alys (Frân Wen)
11.3 – sengl Revolution Rabbit Deluxe – Slava Ukraini (SWND)
15.3 – ailgymysgiadau Sister Wives – Gweler Ein Gofid (Libertino)
17.3 – sengl Alice Low – Rim Job (Clwb Music)
18.3 – sengl Yr Eira – Canu Gwlad (I KA CHING)
18.3 – sengl Sŵnami – Be Bynnag Fydd (Côsh)
18.3 – albwm National Milk Bar – Villains in My Head (SWND)
20.3 – albwm Mari Mathias – Annwn (JigCal)
25.3 – sengl Y Dail – You Don’t Have To Be Blue Forever (Y Dail)
25.3 – sengl WoodooMan – Y Nos (Dewin)
25.3 – sengl Geth Tomos – Cana dy Gân (Gonk)
25.3 – sengl Serol Serol – Chwalu’r Hud (I KA CHING)
25.3 – sengl Tara Bethan – Drama Queen (Côsh)
29.3 – EP Sister Wives – Gweler Ein Gofid (Libertino)
30.3 – sengl Georgia Ruth – 25 Minutes (Bubblewrap)
31.3 – sengl Midnight Run – The March (Bryn Rock)