Gŵyl arbennig i ddathlu ein cyfaill a’n cydweithiwr – Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst)
4-6 Hydref
Mae Pontio yn cyflwyno penwythnos o digwyddiadau arbennig fis Hydref i dathlu a chofio ein cyfaill a chydweithiwr, Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst).
Psylence oedd un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous i Emyr gydlynu yn ei waith yma’n Pontio gyda bandiau megis Datblygu, Adwaith, ac R. Seiliog yn gosod cerddoriaeth a’i berfformio’n fyw i ffilmiau megis: Kiss Andy Warhol, ffilmiau byr Maya Deren, Earth gan Dovzhenko, a llawer iawn mwy gan lenwi penwythnos o ddigwyddiadau yn y Sinema.
Dywediad Emyr oedd ‘adeilada fo, am mi ddown nhw’ – felly dyma ni yn adeiladu ar un o’i ddigwyddiadau mwyaf beiddgar, arloesol a chyffrous gyda penwythnos cyfan o ddigwyddiadau; Psylence 2024 fydd y mwyaf eto.
Felly, cadwch y dyddiad yn rhydd – a bydd rhaglen lawn o ffilmiau, cerddoriaeth a chelf gyda line up yn cael ei gyhoeddi’n fuan iawn.
Bydd elw Psylence 2024 yn mynd i Cancer Research UK.