Cartref digidol diwylliant Cymru.

Prysur Ymarfer

Dwi wedi recordio fersiwn pot jam piano a llais o fy record gyntaf – ‘Prysur Ymarfer’ – sydd ar gael i brynu rwan am £2 (neu faint bynnag da chi’n meddwl ma’n haeddu) ar bitwbitwbitw.bandcamp.com

Ma na rwbeth wedi bod yn fy nal nôl i raddau rhag rhoi hwn allan, rhyw deimlad ella y byswn i ond yn ychwanegu at y llu o bethau sy’n ymddangos ar y we bob dydd yn y cyfnod rhyfedd yma – er mor wych di gweld cymaint o stwff newydd, dwi’n ymwybodol o’r pwysau ma pethau felly’n gallu ei roi ar artistiaid i greu.

Ond yn y pen draw, nes i benderfynu mynd amdani, am y rheswm mai dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd yr albwm ar gael (h.y. tan y bydd hyn i gyd drosodd) ac mae hynny o gysur i mi mewn ffordd, gan fod o’n fy atgoffa, er ei bod hi’n teimlo braidd fel diwedd y byd ar hyn o bryd, y daw eto haul ar fryn.

RHANNWCH