Yn y bennod ddiwethaf siaradon ni am y super clubs, gan drin a thrafod clwb chwedlonol y Tunnel yng Nghaerdydd, a gorffen gyda’r darlledwr a’r drymiwr Owain Wyn Evans, ond nid dyna’r cyfan a oedd ganddo i’w ddweud.
Yn y bennod hon, rydyn ni’n trafod sut y sefydlodd Pride Cymru ei hun a’i heriau parhaus i gynrychioli ein cymuned, ac yn clywed gan Rahim El Abashi, ffoadur sy’n rhannu ei stori am sut y daeth i ffeindio’i gartref yn Ne Cymru.
Mae’n mynd i fod yn un da, ond yn ôl i Owain yn gyntaf.
Yn wreiddiol o dref Rhydaman yng Ngorllewin Cymru, mae Owain yn esbonio effeithiau parhaol diffyg cynrychiolaeth i berson ifanc LHDTC+ sy’n tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru a chymaint mwy! Pwy sy’n cofio Adam and Eve? IYKYK