Cartref digidol diwylliant Cymru.

Presant PRINT

No Categories Found

Ar Ragfyr 9-10 bydd gwefan ac app AM mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru yn cynnal ‘Presant PRINT’ – deuddydd o ddathlu cylchgronau Cymru gan annog pawb I danysgrifio iddynt fel anrheg Nadolig eleni. Mae hyn yn ddilyniant i’r ŵyl PRINT gyntaf a ddigwyddodd ar AM yn mis Mawrth eleni.

Dros y ddeuddydd bydd modd mwynhau cynnwys newydd a chynigion ecliwsif gan nifer o gylchgronau Cymru ac ymysg y cylchgronau fydd yn cymeryd rhan mae Barddas, O’r Pedwar Gwynt, Vaine Magazine, Golwg, New Welsh Review, Welsh Football, Scintilla, Y Cymro a mwy.

Yn ôl Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Gyngor Llyfrau Cymru:

“Mae’n braf iawn gallu cydweithio gydag AM unwaith eto i dynnu sylw at y cyfoeth o gylchgronau sydd yna yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mwynhewch damaid i aros pryd … ond ewch at y bwrdd am wledd. Ewch i’ch siop a phrynu copi. Neu’n well byth prynwch danysgrifiad i chi’ch hun neu’n anrheg Nadolig i ffrind – yr anrheg sy’n para am flwyddyn gyfan!”

Dywedodd Lea Glyn o AM:

“Mae’n fraint medru defnyddio platfform AM mewn ffordd ymaferol i annog tanysgrifio yn ogystal â dathlu cyfraniad allweddol y cylchgronau i ddiwylliant Cymru”

Yn ôl Sioned Rowlands o O’r Pedwar Gwynt:

“Mae tanysgrifwyr yn gymuned o ddarllenwyr ac yn holl bwysig i O’r Pedwar Gwynt – mae’n ddrych amryliw i’r cylchgrawn. Ac mae’r sgyrsiau a’r ymateb anffurfiol a gawn gan ein darllenwyr fel bod mewn siop lyfrau rithiol. Y nhw sy’n miniogi ein syniadau, ac mae nifer dda yn troi’n gyfranwyr. Yr un mor bwysig ydi’r gymuned o gylchgronau bychain eraill a’r syniadau a ddaw trwy gydweithio ar ddigwyddiadau megis PRINT”.

Mae David Collins o gylchgrawn Welsh Football yn dweud:

“Mae Welsh Football yn falch iawn i fod yn rhan o’r digwyddiad PRINT yn arddangos ystod eang o’r cylchgronau o Gymru sydd ar gael i’w tanysrifio iddynt. Rydym wedi bod yn cynnig gwasanaeth tanysgrifio ers 30 mlynedd (mae gennym hyd yn oed danysgrifwyr ffyddlon sydd wedi bod gyda ni pob cam o’r ffordd!). Mae tanysgrifiad cylchgrawn yn anhreg Nadolig wych sydd yn para drwy gydol o flwyddyn – mae adborth gan gwsmeriaid yn dweud wrthym nad oes unrhyw beth yn cymharu gyda’r pleser o weld eich hoff gylchgrawn yn cyrraedd eich stepen ddrws”

Bydd PRINT ar gael i’w fwynhau dros Ragfyr 9 a 10 ar AM drwy fynd ar y wefan – amam.cymru – neu drwy lawrlwytho’r app.

Am fwy o fanylion: lea@pyst.net

RHANNWCH