Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pontypridd – Catrin Doyle, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies

Cymuned

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle? 

Roeddwn eisiau dod ac unigolion creadigol a’r gymuned ehangach at ei gilydd ym Mhontypridd, er mwyn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Felly mi es i, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies i greu gweithgareddau i annog defnydd o’r iaith mewn ffurf ymarferol a normal, er mwyn cyflwyno’r iaith i’r ardal yma ble nid oes llawer o siarad Cymraeg. 

2. Pa weithgareddau oedd yn rhan o’r prosiect? 

I ddechrau, fe ymchwiliwyd i berthynas pobl Pontypridd gyda’r Gymraeg drwy edrych ar ffyrdd posib o gyflwyno’r iaith i gynulleidfaoedd gwahanol, gan gynnwys busnesau bach. Yn dilyn hyn, fe drefnwyd cyfres o weithdai i unigolion creadigol dod at ei gilydd i greu cerddoriaeth, celf weledol, barddoniaeth a mwy, drwy gyfrwng Cymraeg. Yn ystod yr Haf, fe gynhaliwyd sesiynau gyda phobl ifanc er mwyn darparu cyfleoedd i gydweithio yn y Gymraeg – mae un o’r rhain bellach dal i weithio gyda mi mewn rôl cynhyrchydd cerddoriaeth ac un arall yn ymgynghori ar gynyrchiadau ysgrifenedig i bobl ifanc ar brosiect Cysylltu a Ffynnu.

Yn ystod y Nadolig, fe drefnwyd ‘Crimbo Cymraeg’ sef ffair i’r gymuned. Roeddem yn gweld hyn fel cyfle i ddod ar iaith i mewn ffordd normal a hwyl, a chreu cyfleoedd i rai sydd dim mor hyderus yn siarad yr iaith i allu ymarfer mewn fforwm saff. Fe roddwyd gardiau doniol uniaith i’r gymuned er mwyn iddynt allu parhau a defnyddio’r iaith adref. 

3. Beth newidiodd oherwydd eich prosiect? 

Mae’r prosiect dal i barhau, ac mi fydd yn parhau unwaith bydd y cynllun Llais y Lle yn dod i ben. Mi fyddem yn gweithio gyda chaffi lleol (Parc Arts) sydd i bobl lawrydd, a fydd yn arddangos rhai o waith celf Cymraeg, er mwyn hyrwyddo’r iaith yno. Mae Bridie, hefyd wedi creu cadair anhygoel gyda’r holl farddoniaeth yno.

Oherwydd y cynllun rydym wedi gweld y pwysigrwydd o fagu perthynas a chreu cyfleoedd 1-1 i bobl allu ymarfer y Gymraeg, a bod hyn yn hanfodol i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith.

Rydym yn awyddus i atgoffa pobl i ‘joio’ siarad y Gymraeg hefo ein gilydd, a bod defnyddio ‘Shwmraeg’ yn dal i olygu bod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio. 

RHANNWCH